"𝔉𝔶 𝔑𝔤𝔴𝔞𝔰 𝔞 𝔏𝔴𝔶𝔡𝔡𝔞."
Gan y diweddar Barch. John Hughes, D.D., Caernarfon
"Wele, fy ngwas a lwydda; efe a godir, a ddyrchefir, ac a fydd uchel iawn. Megys y rhyfeddodd llawer wrthyt; (mor llygredig oedd ei wedd yn anad neb, a'i bryd yn anad meibion dynion.)"—ESAIAH LII. 13, 14.
GWAS y dywedir hyn oll am dano yw yr Arglwydd Iesu Grist, hysbysydd ewyllys Duw i'r byd a chyflawnydd ei holl fwriadau. Ac yn yr adran sydd yn dechreu gyda'r geiriau a ddarllenwyd, y mae prophwydoliaeth yr Hen Destament yn cyraedd ei phwynt uchaf, ei man dysgleiriaf, a'r prophwyd ynddi yn llefaru, nid am dano ei hun nac am neb o gedyrn yr hen gyfamod, ond am yr "Un mawr oedd ar ddyfod." Mewn prophwydoliaethau boreuach yn y llyfr, y mae yr Arglwydd yn cyfarch Jacob neu Israel fel "ei was," oblegyd yr oedd Duw wedi dethol y genedl i gynrychioli ei enw ef yn mysg holl genhedloedd y ddaear, ac yr oedd megys yn gyntafanedig iddo ar gyfrif ei rhagorfraint. Felly hefyd yr oedd iddo yn was ar gyfrif ei neges a'i chyfrifoldeb. Ond os oedd eu galwad yn uchel, fy nghyfeillion, yr oedd eu cyflawniad yn dra diffygiol, a chyda golwg ar hyny y mae yr Arglwydd drwy y prophwyd yn ymliw â'r genedl gan edliw iddi ei hanffyddlondeb. "Pwy sydd