enw Iesu. Fuasai ddim yn werth i chwi fyw ynddo, i chwi na'ch tadau o'ch blaen, oni buasai enw'r Iesu. Dyma yr unig elfen bureiddiol yn ngwareiddiad Ewrob ydyw enw'r Iesu,—yr oes, yr einioes fer a dreuliwyd o Bethlehem i Galfaria, a brynodd dy einioes di a mi oddiwrth ei oferedd. 'Does dim yn werth i chwi ymguro yn Sir Feirionydd am driugain neu ddeg-a-thriugain mlynedd, ddim yn werth i ni geisio byw oni buasai fod yr Iesu wedi byw o'n blaen ni, a phrynu einioes ddaearol oddiwrth ei gwagedd a'i hoferedd. Yn wir, 'does dim ag y mae a wnelo meddwl ag ef nad ydyw enw'r Iesu wedi effeithio er puredigaeth iddo. Masnach y byd, gwleidyddiaeth y byd, y gwyddorau, y celfyddydau, y bywyd teuluaidd, y bywyd cymdeithasol—" nid ymgudd dim rhag ei wres ef." Y mae dylanwad ei enw yn treiddio i holl agenau a chysylltiadau cymdeithas. Dyma y dylanwad puraf mewn bod. Ond amlygiad uwch eto o'i nerth ydyw y gafaeliad, (yr wyf yn gobeithio y'ch bod yn fy nghlywed), y gafaeliad, meddaf, sydd ganddo ar y dyn unigol. Y mae yn eang iawn ar gymdeithas, ond, ysywaeth, nid yw eto yn ddwfn iawn. Os mynwch chwi brawf o'i nerth, edrychwch ar ambell ddyn unigol sydd wedi ildio ei hunan iddo. Dyna un dyn er engraifft—Saul o Tarsus, un o'r dynion—fe faddeua i mi am ddweyd pe clywai fi—un o'r dynion mwyaf annibynol, mwyaf pen-syth, mwyaf uchel-falch wrth naturiaeth a fu ar y ddaear erioed. Nid oedd yn foddlawn i ymostwng mewn darostyngiad i neb na dim ; dyna fo, y dyn anhawdd ei drin, dyn o ewyllys gref oedd Saul o Tarsus, am orchfygu pawb rywfodd. Ond o'r awr y daeth i adnabod Iesu o Nazareth yr oedd yn falch i ystyried ei hun yn slave iddo, yn gaethwas iddo, yn eiddo hollol iddo. A diolch i Dduw, y mae yn y gynulleidfa heddyw aml un tebyg. iddo. Dyma i chwi brawf o nerth dylanwad. Y mae y dyn yn cyfrif ei hunan yn eiddo hollol i'r person hwn ar ol ei adnabod.
Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/232
Gwedd