a'r hen eglwysi mawrion. Ei enw Ef oedd bywyd pob gwareiddiad oedd yn yr oesoedd tywyll yna. A heddyw, ar ol i ddeunaw canrif redeg drosodd, mae mwy yn credu ynddo nag mewn un oes o'r blaer, yr wy'n hyderu. Mae hyd yn nod anffyddwyr rai yn proffesu ryw gymaint o barch i'w garictor, ac am wn i, dydyn' nhw ddim yn teimlo dim anhawsder i goelio geiriau y Salmydd, "Ei enw fydd yn dragywydd. Ei enw bery tra fyddo haul." Dyna un sylw—Dylanwad Ei Enw. "Gwelant yr hyn ni fynegasid iddynt ; deallant yr hyn ni chlywsant."
Yn ail: Mae Dylanwad Ei Enw i'w briodol i hynodrwydd Ei yrfa. A hynodrwydd ei yrfa, sylwch, ydyw y cyfuniad sydd ynddi o fawredd a mwyneidd—dra, o ostyngeiddrwydd a dyrchafiad.
"Uchelderau mawr ei Dduwdod,
A dyfnderoedd ei ufudd-dod,
Sy'n creu synu fyth ar synu
Yn nhrigolion gwlad y goleuni."
Hynodrwydd y cyfuniad yna, drachefn, ydyw fod y mynediad o un sefyllfa i'r llall i'w briodoli, nid i ddim angenrhaid, ond i gariad a gras. Fe ddaeth yr Hwn oedd gyfoethog yn dlawd, yn unig o ras. Mae yr Hwn a fu yn dlawd wedi esgyn goruwch yr holl nefoedd. Pa'm? Am ei fod wedi haeddu y gogoniant; am ei fod wedi enill y goron. Mae y mynediad o un 'stad i'r llall i'w briodoli, nid i natur ac angenrhaid, ond i gariad a gras. Ac yn awr, fy nghyfeillion, pan y byddwn yn ceisio dal am funyd eto y ddwy sefyllfa ar gyfer eu gilydd, anfonwch ochenaid ddystaw i'r nef am i'r Ysbryd tragwyddol ogoneddu Crist. O, na ddeuai i'r golwg! O, na chai pobl ei wel'd! gweled yr Iesu! Gofynwch, gweddïwch am i'r Ysbryd yn y Gymanfa yma ei ogoneddu a'i ddangos i bechaduriaid, i ni i gyd.