Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/235

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y ddwy sefyllfa: "Mor llygredig oedd ei wedd yn anad neb, a'i fryd yn anad meibion dynion." Pan ddaeth Naomi i Bethlehem, "Ai hwn yw Naomi," meddai'r bobl yn dra siomedig. Pan ddaeth Iesu Mab Duw i Bethlehem, yr un oedd y siomedigaeth : “Ai hwn yw y Messiah?" medden' nhw. "Nid am un fel hwn yr oeddym ni yn edrych. Pa le y mae y mawredd? Paley mae yr honiad, y disglaerni? Ai hwn yw Gwaredwr yr Israel? Nid ydym ni yn gweled tân, yn ol y brophwydoliaeth, yn ysu o'i flaen. Dydi'r creigiau ddim yn cael eu bwrw i lawr ganddo. Ai hwn ydyw?" "Dirmygedig yw, a diystyraf o'r gwyr; gŵr y gofidiau a chynefin â dolur." "Efe," meddai Esaiah, "Efe a dŷf o'i flaen Ef fel blaguryn." Mae Duw Dad yn gwylio ei flaguriad o'r nef, yn sylwi arno. Y mae yn tyfu o'i flaen Ef fel blaguryn, ac fel gwreiddyn ar dir sych yn ngolwg ei gyd—genedl. A'i frenhiniaeth a dyfodd; erbyn hyn, gwreiddyn mewn daear sech ydyw hi. Fe fu golwg ardderchog arni gynt. Yr oedd tylwyth Dafydd yn un o'r teuluoedd mwyaf urddasol y dwyrein—fyd. "A'ch brenhiniaeth fel cedrwydden yn cuddio'r mynyddoedd gyda'u cysgod." Ond dilynwch y teulu i lawr; dowch i lawr gyda'r teulu, dowch at gyflawnder yr amser, 'does yna yr un tywysog, 'does yna yr un gŵr cyfoethog, 'does yna yr un concwerwr yn y teulu i gyd. Pwy sydd yn ei gynrychioli heddyw? Neb ond Joseph y saer o Nazareth a'r fwyell ar ei gefn. Dyna y goreu—dyna representative o deulu Dafydd. Iawn y gallem ddweyd, "Y mae pabell Dafydd wedi syrthio." A oes rhywun a'i cyfyd hi? 'Does dim un arwydd y gwneir. Wel, aroswch, meddech chwi. Sylwch ar y blaguryn tyner yna sydd yn tarddu allan—yr wyf finau yn ei weled. Ond y mae mor dyner fel y bydd barug un boreu—ddydd yn ddigon i'w ddallu. Y bobl fawr yn meddwl dim o hono! Yn chwilio ac yn gweled na chododd Prophwyd o Galilea, heb son am