Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/236

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Messiah'r Brenhin." Ddaeth erioed brophwyd o Galilea. Gwn ei fod yn pregethu, ond pregethu i'r tlodion y mae. Sorod y wlad ydyw ei wrandawyr. Mae wedi fturfio coleg o fyfyrwyr o'i amgylch, ond wyddoch chi pwy ydyn nhw? Pysgotwyr Galileatir cysgod angau. Nid pysgotwyr y môr mawr ydynt, ond pysgotwyr ar damaid o lyn ydynt—dyna ydynt ar y goreu. Dyna ei weision, dyna ei ddilynwyr. "Mae yn llefaru geiriau Duw," meddech chi. Ydyw, ond y mae doethineb ei oes yn gwrthod moesoldeb y geiriau hyny. "Y neb a ddyrchafo ei hun a ostyngir, a'r neb a'i gostyngo ei hun a ddyrchefir." "Ynfydrwydd," meddai doethineb uwchaf y byd. "Y mae yn cyflawni gweithredoedd Duw." Gwir, ond y mae ei wyrthiau ar level ei ddarostyngiad, ac yn cyfranogi o wyleidd—dra y darostyngiad. Mae y wyrth yn debyg i fenyw ddiwair yn cywilyddio wrth ymddangos o flaen cenhedlaeth drofaus, "Gwel na ddywedych i neb." Dirmygedig yw!" Oes ryfedd wedi dechreu yn mhreseb anifail, mae hi i ddibenu ar groes drwgweithredwyr, a'r einioes rhwng y dechreu a'r diwedd yn cyfranogi o natur y ddau. "Mor lygredig yw dy wedd yn anad neb, a'th bryd yn anad meibion dynion."

Yn nesaf, fy nghyfeillion: Mae Gwas yr Arglwydd yn ymddwyn yn ddoeth yn hyn oll. "Wele, fy ngwas a lwydda;" fy ngwas a wna yn ddoeth; 'a wna yn gall,' meddai ymyl y ddalen. Llawer gwell ydyw "A wna yn ddoeth."

Y peth doethaf a wnaeth Jacob yn ei fywyd oedd gadael pabell ei dad a'i fam a myn'd gyda'i ffon—dim ond efe a'i ffon yn myn'd dros yr Iorddonen. Pa'm? Mi gwelaf ef yn dychwel o Padan—aram gyda'r wraig a'r plant yn ddwy fintai gyda chyfoeth mawr. O, nghyfeillion i, y peth doethaf a wnaeth yr Ail Berson erioed oedd dibrisio ei hun, cymeryd arno agwedd gwas, ac