Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/237

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mi ddywedaf i chwi pa'm yr wyf yn dweyd fel hyn. Dyma y nefoedd yn dodi ei sêl ar ei ddarostyngiad, ar ddoethineb ei ddarostyngiad. "Efe a godir, a ddyrchefir, ac a fydd uchel iawn. Efe a wna yn ddoeth." Nid efe a wna yn gall. Mae byd o wahaniaeth, medde nhw, rhwng bod yn gall a bod yn ddoeth. Y mae yn anhawdd dweyd hefyd beth ydyw, ond fe ŵyr pob dyn doeth yma beth wy'n ei feddwl. Y mae gwahaniaeth mawr iawn rhwng callineb a doethineb. Peth da iawn ydyw bod yn gall. Peth buddiol iawn ydyw callineb. Y mae yn enillgar, fel rheol. Y mae yn beth gweddaidd. Yr un pryd, 'does dim byd mawrfrydig, dim godidog o gwbl mewn callineb. 'Does yr un wreichionen o frwdfrydedd ynddo, ac anmhosibl ydyw iddo gyneu brwdfrydedd mewn eraill, oblegyd braidd y bydd neb farw dros un call. Welsoch chi neb erioed wedi gwneyd. Mewn gair, mae callineb yn sawru o fychander, gormod o ofal ar ran dyn o ran ei hunan; y mae o natur gyfyng—'does dim yn eang mewn callineb. Os goddefwch i mi ei ddefnyddio, synwyr llais y plwy' ydyw callineb. Dyna ydyw callineb, rhyw synwyr bach, twt, i eistedd ar bwyllgor ac i edrych i mewn i fuddianau y plwyfolion heb anghofio ei interests ei hun. Beth ydyw doethineb? Dealltwriaeth yr ymherodraeth, yn adnabod egwyddorion mawrion cyfiawnder, barn a thrugaredd. Fe fyddai yn sarhad ar Was yr Arglwydd i neb ddweyd ei fod yn ymddwyn yn gall. Beth wnaeth? Ymddwyn yn ddoeth. "Ti a geraist gyfiawnder, ti a gaseaist anwiredd." Cafodd ei wobr am hyny. Eneiniodd Duw Ef âg olew llawenydd "tuhwnt i'w gyfeillion." Yr oedd peth digrifwch, yn ddiau, yn yr amgylchiad hwnw un diwrnod, yr hwn na ellir ei olygu yn rhyw gall iawn un amser; hyny ydyw, nid ei brif nodwedd ydoedd callineb. Gwelaf Pedr un diwrnod yn cynyg ei hun i gallineb i'w ysbrydoli, ac yn edrych yn sobr, can' sobred a'r ustus ar ei Arglwydd gan ei