𝕻𝖗𝖔𝖋𝖎 𝖆 𝕯𝖆𝖑.
Gan y diweddar Barch. Lewis Edwards, D.D., Bala.
"Profwch bob peth; deliwch yr hyn sydd dda." I THES. v. 21.
MAE lle i feddwl fod yr apostol yn bwriadu cysylltiad rhwng yr adnod hon a'r benod o'r blaen. Yn y bed- waredd adnod a'r bymtheg mae yn dweyd, "Na ddiffoddwch yr Ysbryd," a'r ffordd i ddiffodd yr Ysbryd ydyw drwy ddirmygu y prophwydoliaethau. Ac y mae yn dweyd "Na ddirmygwch y prophwydoliaethau." Wrth y prophwydoliaethau y mae i ni ddeall addysg y prophwydi. Mae yn wir fod prophwydo yn y dull o ragddywedyd yn bod i raddau ar ryw achlysuron. Ond yn gyffredin mae y gair yn arwyddo addysg y prophwydi. Y mae yn ymddangos fod tuedd yn yr eglwysi y dyddiau hyn i ddirmygu y dull cyffredin o addysgu, a'u bod yn dyrchafu y gwyrthiau goruwchnaturiol, megys llefaru â thafodau eraill, &c. Nid ydym yn sicr nad ydyw yr un perygl yn bod eto, o ran sylwedd y peth. Yr oedd llefaru â thafodau eraill yn beth dyeithr iawn, ac yn creu syndod. Yr oedd arnynt eisio rhywbeth digon dyeithr. Lled anhawdd, er hyny, ydyw cael rhai i