lynu wrth addysg, i lafurio gyda y dull cyffredin o addysgu. Felly y mae y cyngor yma yn angenrheidiol i ninau eto, "Na ddirmygwch y prophwydoliaethau."
"Na ddirmygwch y prophwydoliaethau." Fel pe y dywedasai, "Na dderbyniwch bob math o brophwydoliaethau ychwaith." Y mae gau addysg. Am hyny, "profwch bob peth." Mae eisio profi er hyny. A yw yr addysg yn addysg ysgrythyrol ai peidio? "Profwch bob peth." Nid oes dim dadl nad dyna ydyw ystyr y cyngor byr yma. Nid fel y mae rhai yn ei gymeryd weithiau, "Profwch bob peth." "PROFWCH bob peth." Rhowch chwareu teg i bob peth. Gwnewch brawf o hono. Peidiwch a gwrthod peth heb ei brofi. Darllenwch bob peth. Gwnewch bob peth. Dyna fel y mae rhai yn ei esbonio. Ond y mae yn ddiamheuol mai yr ystyr ydyw, Peidiwch derbyn, peidiwch rhoi lle na gwrandawiad i ddim heb ei brofi. Un gair a ddefnyddir am brofi ydyw hwn, a ydyw yn arian da ai peidio,—pa un ai twyll ydyw? "Profwch bob peth." Ac yna, ar ol profi, "deliwch yr hyn sydd dda." Nid profi er mwyn gwrthod sydd yma, ond profi er mwyn dyfod o hyd i'r da. Deliwch hwnw. Na wrthodwch bob peth. Y mae y ddwy adnod yma yn ateb i'w gilydd yn brydferth iawn. Y mae tuedd mewn dynion sydd yn profi llawer i fyned yn feirniadol, dros ben y feirniadaeth, i wrthod pob peth; maent yn myned yn grachfeirniaid. Mae y rhai hyny i'w cael eto. "Ond ar ol profi, deliwch yr hyn sydd dda." Hold fast. Gofalwch am beidio ei ollwng. Daliwch eich gafael ynddo. Nid af i ranu yr addysg yma yn rhyw gelfyddydol pe bawn yn medru. Yr wyf yn ei chymeryd yn syml fel y mae. Mae yr holl adnod yn troi o gwmpas dau air—PROFI, DAL. Mae y cwbl yn troi o gwmpas y ddau yna,—PROFI a DAL. Ac y mae yn dweyd beth sydd i'w brofi a beth sydd i'w ddal. Mae pob peth i'w brofi,