Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond yr ydym i ddal yr hyn sydd dda. Nia ddechreuwn gyda y rhan gyntaf.

1. PROFI.

Gallwn ranu hwn i ddau beth. Yn iaf, Profwch bob athrawiaeth. Yn ail, Profwch bob ymarweddiad. Mae yn cynwys yr athrawiaethol a'r ymarferol.

Profwch—peidiwch derbyn un athrawiaeth heb ei phrofi; peidiwch a dilyn un math o ymarweddiad heb ei brofi yn gyntaf. Mae hyn yn cynwys fod gan ddyn allu i brofi pob peth. Mae y Duw mawr wedi rhoddi gallu o'ch mewn chwi a minau i brofi athrawiaethau,— i brofi beth sydd yn wir a beth sydd yn gelwydd. Ac y mae cryn lawer o arian drwg yn cael eu profi y dyddiau hyn, mewn ystyr foesol yr wyf yn feddwl. Y mae llawer iawn o ryw athrawiaethau newyddion, a llawer iawn o ddynion pur uchel yn ymadael oddiwrth y ffydd. Nid wyf yn tybio eich bod chwi yn clywed gau athrawiaethau yn yr un o gapeli y dref yma. Ond y mae yn debyg eich bod chwi yn darllen cryn lawer o beth na ddylech eu derbyn cyn eu profi. Y mae llawer iawn o ryw athrawiaethau croes i wirionedd yn cael eu taenu drwy y wasg yn awr, athrawiaethau yn gwadu tragwyddol gosbedigaeth, athrawiaethau yn gwadu yr Iawn, ac athrawiaethau yn taflu amheuaeth ar y bôd o Dduw. Mae y peth yn gyffredin yn Lloegr, ac y mae eisio rhybuddio am hyn, yn enwedig y bobl ieuainc. Mae rhyw awydd mewn dyn ieuanc i wybod pob peth, ac i neidio at bob peth. "Profwch bob peth," —PROFWCH. Dyna sydd yma. Peidiwch derbyn athrawiaethau ag yr ydych yn eu gweled heb edrych a wnant hwy ddal y prawf ai peidio. Mae cyneddf mewn dyn i brofi pethau moesol; nid rheswm, cofier, ond cydwybod. Dyna y brif gyneddf mewn dyn ydyw y gydwybod, Dyna y gyneddf lywodraethol. Gwran-