dewch ar bob peth. Mi ddywed eich cydwybod wrthych yn union beth sydd wir a beth sydd gelwydd. Os 14 wnewch hwi wrando, mi wnaiff hithau beidio siarad; ac os ewch i weithredu yn groes iddi, yr ydych yn ei chaledu hi. Mi aiff yn y diwedd fel pe wedi ei serio â haiarn poeth. Ond os caiff cydwybod chwareu teg, mi wnaiff lefaru wrthych. Lleferydd Duw yn enaid dyn ydyw cydwybod, —y Duw anfeidrol yn llefaru o'ch mewn chwi ydyw, ac wrth wrando arni yr ydych yn gwrando ar Dduw. Mae Ysbryd Duw yn siarad yn y gydwybod. Ydych chwi yn gwrando, gyfeillion? A'r ffordd oreu i ni wrando ar lais cydwybod ydyw mewn dystawrwydd. Yn y dystawrwydd y mae hi yn hoffi siarad. Mae swn y byd yma yn fynych yn boddi ei llais hi. Ond arferwch, y bobl ieuainc yma yn enwedig, arferwch fyned yn fynych i'r dystawrwydd. Rhyw lef ddystaw fain ydyw llef cydwybod, ac fe fydd yn anhawdd iawn i chwi ei chlywed hi yn nghanol swn a dadwrdd y byd yma. Ond pan ewch chwi i'r dystawrwydd, o'r neilldu, i'r ystafell ddirgel, a dechreu galw eich hunain i'r dystawrwydd, ond odid na chewch chwi glywed y llef ddystaw fain yn dweyd rhywbeth wrthych. Nid oes dim yn well na gweled pobl ieuainc yn treulio rhyw gymaint o adeg y dydd, o swn y byd ac o swn ei gydnabod, i wrando beth a ddywed yr Arglwydd wrthych drwy eich cydwybod. Y mae cydwybod gan y pagan, ac y mae hono yn llefaru dros Dduw wrth y pagan. Ond eto, mae genym ni fantais fwy o lawer iawn na'r paganiaid. Yr ydym mewn mantais i fyned a'r gydwybod at y Beibl. Mae fy nghydwybod wedi anmharu y dyddiau yma; nid yw yn anffaeledig; ond ewch a hi i fyny at y Beibl. Mae y Beibl yn cywiro eich cydwybodau chwi. Dyna y ffordd i brofi,—ewch a phob athrawiaeth at y Beibl. Yn awr, cymerwch yr athrawiaethau newyddion a dyeithr sydd yn cael eu traethu yrwan, yna prawf cydwybod hwynt, Nid wyf
Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/35
Gwedd