Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn dweyd nad ydynt yn edrych yn rhesymol, ond nid rheswm sydd yn llefaru, ond cydwybod. Cymerwch dragwyddol gosbedigaeth yr annuwiol, beth ddywed y gydwybod? Mae hi yn dweyd fod pechod yn ddrwg, yn ddrwg yn erbyn Duw anfeidrol. Dyna lais cydwybod. Beth bynag ddywedo hi, fod yna ddrwg mewn un pechod na all holl weithredoedd da y byd eu cywiro. Mae eich cydwybod chwi yn dweyd fod pob pechod yn haeddu cosbedigaeth am dragwyddoldeb. Ac os bydd eich cydwybod chwi yn gwyro weithiau, ewch a hi at y Beibl. "Y rhai hyn a ânt i gosbedigaeth dragwyddol." Am hyny, peidiwch derbyn pethau fel yna. Mae eich cydwybodau yn eu condemnio. Wel, heblaw hyn, mae eich cydwybod yn dweyd fod drwg pechod yn gofyn Iawn anfeidrol, ac nid oes dim modd maddeu pechod heb waed. Mae llawer iawn yn gwneyd gwawd o hyna. Athrawiaethau y gwaed, athrawiaethau gweigion, meddant. Peidiwch gwneyd hyny, gwrandewch ar eich cydwybodau. Ac nid rhyw fath o Iawn, nid rhyw Iawn ymddangosiadol, ond Iawn i Dduw. Nid oes dim dawela eich cydwybodau, wedi eu deffro unwaith, ond golwg ar Iawn o anfeidrol werth. Nid oes dim dawela y gydwybod ond yr hyn sydd yn tawelu cyfiawnder dwyfol. Mae yn rhaid cael Iawn uniganedig Fab Duw i foddloni cyfiawnder. Ac nid oes llai a foddlona dy gydwybod dithau. Nid yw o un dyben i ti ymofyn am dawelwch yn unman arall. Mae pob peth yn dy adael di heb gysgod erbyn y dydd mawr hyd nes y doi di at Iawn Calfaria. Profwch bob athrawiaeth yn ngoleuni y Beibl.

Yr ail beth. Wedi hyny, profwch bob ymarweddiad. Peidiwch dilyn un ymarferiad, peidiwch dechreu un ymarferiad heb ei brofi. Peidiwch myn'd ar ol difyrwch heb ei brofi. Nid wyf yn condemnio bob difyrwch. Gallwch wneyd y peth a fynwch ond pechu. Ond