Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dowch at y cwestiwn yma, a ydyw yn unol â chydwybod? a wnaiff ef beidio dolurio fy nghydwybod yn ngoleuni fy mhechod? Sut y gallwn ni farnu, ffurfio barn, ar ddim heb gael dipyn o brynu ar hono? Wel, tybiwch fel Dr. Johnson, nid ydych yn myned i fwyta y cwbl fydd ar y bwrdd er mwyn gwybod a yw yn werth ei fwyta. Mae y taste yn gofyn, mae y chwaeth yn gofyn ei ddefnyddio. Mae chwaeth yn gallu gwrthod y drwg a dewis y da. A oes genych amheuaeth am ddrwg rhywbeth? Cymerwch chwi ymarferiad, rhyw ffordd i gael pleser, ewch ag ef at eich cydwybodau ; gofynwch a gwrandewch beth a ddywed cydwybod ar y mater. "Profwch bob peth." Y bobl ieuainc, ydech chi yn sicr ydi y peth yn gwneyd lles i chwi? Ydi o yn peidio gwneyd drwg i chwi? Ar ol bod mewn rhyw gymdeithas, sut y mae y gydwybod yn teimlo? beth y mae yn ei ddweyd wrthych? Rhowch wrandawiad i lais cydwybod yn ngoleu y Beibl. Feallai fod hynyna yn ddigon ar y peth cyntaf,—"Profwch bob peth."

II. DAL, "Dal yr hyn sydd dda." Nid profi ydyw y gwaith i gyd. Mi äi ein tymor ni heibio yn ofer iawn pe na byddai ond profi i gyd, dim ond criticeisio y cwbl. Ond dyma bwnc arall, "Deliwch yr hyn sydd dda." "Profwch bob peth; deliwch yr hyn sydd dda." Mae hyn yn tybio fod rhywbeth da yn bod wedi y cwbl. A gofalwch wrth brofi a beirniadu i beidio colli golwg ar "yr hyn sydd dda." "Deliwch yr hyn sydd dda." Beth bynag sydd yn ffug a thwyll, ac y mae llawer iawn, ond wedi y cwbl mae crefydd yn beth da. Mae crefydd yn dda drwy y cwbl. Mae yna ragoriaethau ac y mae gwendidau yn y bobl ddoeth, ond crefydd sydd yn dda. Mae yn dda i fyw; mae yn dda i farw. Duwioldeb, "mae ganddi addewid o'r bywyd sydd yr awrhon ac o'r hwn a fydd." Beth arall gewch chwi i wneyd hyn? Beth sydd genych os ydych heb