dduwioldeb? Beth sydd genych ar gyfer byd arall ? erbyn marw? Mae crefydd wrth farw yn dda, fy ngwrandawyr. Yn nghanol byd o ddrygau a gwagedd, crefydd ydyw y peth da. "Ofna Dduw, a chilia oddiwrth ddrygioni," —mae hyny yn dda. Mae hwna i'w gael, mae y peth da i'w gael. Ac y mae dynion wedi ei gael. Mae rhagrithwyr yn bod, ond y mae dynion duwiol yn bod. Gwrandewch chi ar y gydwybod, mi ddywed hi yr un peth. Mae dynion duwiol yn bod, 'does dim dadl nad ydynt yn bod. Mae eu bywyd yn tystiolaethu drostynt. Dynion yn meddu egwyddor sanctaidd, mae y rhai hyny yn bod. Wel, "deliwch yr hyn sydd dda." Daliwch afael, hold fast, daliwch afael yn mhob peth da. Peidiwch a'u gadael i fyned i golli. Mae yn arw iawn gweled ambell i ddyn ieuanc yn myned yn rhy falch, neu yn rhy rywbeth, i ddal i fyny yr hen arferion yr oedd ei dad a'i fam yn eu dal i fyny, yn colli yr ysbryd i ddarllen y Beibl bob dydd, ac i fyned ar ei liniau i roddi addoliad i Dduw i ddiolch am ei gynal ac i ofyn am ras i'w gadw. Dyna beth sydd yn dal yn dda. Hold fast, fy mhobl i. Y bobl ieuainc, maddeuwch i mi am fod mor hyf yn apelio atoch, os byddwch yn gadael cartref, fel y bu ac y mae llawer ohonoch, i fyned i Loegr ac i America, daliwch afael yn yr hen arferiad yna, ewch a'r hen arfer dda gyda chi,—peidiwch a'i gadael hi gartref. Beth bynag adewch chwi ar ol, ewch a'r Beibl gyda chwi, ac arferwch ei ddarllen; arferwch weddio hefyd. "Deliwch yr hyn sydd dda." Yr arferiad o wrando, a myned i'r Ysgol Sabbothol, daliwch afael yn hyny, er nad yw yn ddigon o grefydd ynddo ei hun; ond eto, mae yn ffordd dda i gael crefydd. Nid ydych yn debyg o gael crefydd yr un ffordd arall. Os ewch i esgeuluso gwrando, ac i esgeuluso eich cyd—gynulliad, ni chewch grefydd yn y ffordd hono. Daliwch yr hen arfer dda i fyny. Peth arall, daliwch afael mewn cymeriad da. Mae yn hawdd
Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/38
Gwedd