Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iawn colli cymeriad. Gellir dweyd fod cymeriad da fel y pren, yr hwn sydd am flynyddoedd yn tyfu, ond mi ellwch ei dori i lawr mewn ychydig amser. Daliwch afael yn eich cymeriad. A gwyliwch rhag i un fwyell ddyfod i'w dori i lawr. Mae cymeriad da yn well nag aur. Mae enw da yn well nag aur gwerthfawr, medd y Beibl. Mae gan bawb sydd yma ei enw. Nid ydych wedi ei golli. Daliwch afael ynddo yn dyn. Y mae ysbeilwyr yn yr un byd a chwi yn barod i geisio eich temtio, ac y mae y diafol, mae yntau yn gwylied, yn cerdded o amgylch, ac yn gwylio am adeg i'ch hudo. Daliwch afael yn eich cymeriadau. Mae enw da, cymeriad am ddweyd y gwir, am onestrwydd, mi all dynion ymddiried ynoch. Mae yn rhoi pleser i nghalon ac i f'enaid i glywed am feibion a merched Cymru wedi myned i Liverpool ac i Manchester, yn dal eu cymeriadau yn anrhydeddus,—eu meistriaid a'u meistresi yn gallu ymddiried ynddynt heb ddim amheuaeth am eu gonestrwydd. Ac am eu geiriau hefyd, maent yn eu credu fel pe baent ar eu llw am bobpeth ddywedant hwy. Wel, daliwch afael, gwyliwch rhag y lleidr a'r ysbeiliwr. Peidiwch myned i gwmpeini drwg, bobl ieuainc, rhai all dduo eich cymeriadau. Mae cymeriad yn dda. Gofalwch rhag arferion sydd yn arwain i golli cymeriad. Yr arferion o fyned i gyfeillachu a rhai drwg, y diwedd yw colli y carictor gan lawer. Peidiwch rhoddi achlysuron i neb i'ch denu, gyfeillion. Daliwch afael yn eich carictor. Beth y mae y Beibl yn rhoddi pwys arno? Enw da, "mae yn well nag aur gwerthfawr." Peth arall, daliwch afael yn mhob teimlad da, cofiwch. Pob teimlad da. Yr wyf yn bur sicr am danoch chwi, bobl ieuainc, nad ydych yn myned drwy y moddion, yn gwrando bob Sabbath, nad oes rhywbeth yn gafael ynoch weithiau, rhyw air, nes ydych yn teimlo, yn dyfod i deimlo fod byd arall yn bod ar ol hwn. Mae Duw yn ymwneyd a chwi. Mae dydd