Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

barn i fod eto, ac y mae yn rhaid i ni ymddangos yno. Yr ydych yn dyfod i deimlo hynyna. Ac yn enwedig pan ar eich penau eich hunain, mae rhyw deimlad yn ymaflyd ynoch am grefydd rhyw feddwl mawr am dduwioldeb, rhyw feddwl mawr am Dduw. Mae bendith yn bod ar ol y teimlad yna; ond odid nad yr Ysbryd Glan fydd yna yn dechreu argyhoeddi. Ond y mae yn bosibl i argyhoeddiadau ddarfod. Nid wyf yn dweyd fod yn bosibl i oleuni gael ei golli byth, ond y mae yn bosibl i ni golli argyhoeddiadau o eisiau eu meithrin. Mae eisio rhoi derbyniad i leferydd Ysbryd Duw. Meithrinwch bob teimlad da,—rhowch le iddo, —peidiwch edrych yn frwnt arno; ac yn enwedig, gofalwch beidio myned i foddi eich argyhoeddiadau, ond meithrinwch hwy. A daliwch afael yn yr hyn fyddwch wedi ei deimlo, mi aiff yn fwy. Daliwch afael yn y teimlad da, ac fe aiff yn gryfach. Rhywbeth wedi dechreu, rhoi ufudd—dod i'r gydwybod, pe bae yn ddim ond hyny, pe bae yn ddim ond teimlad fod y gydwybod yn dweyd wrthyt, ti ddylet weddio, ti ddylet fyn'd ar dy liniau bob dydd, ti ddylet fyn'd i foddion gras. Peidiwch gwneyd cam a'ch cydwybod, gyfeillion, rhag iddi dewi. Gwrandewch bob gair ddywed wrthych. Wnewch chi wneyd hyny? Mae yn rheol anffaeledig,—beth bynag ddywed eich cydwybod wrthych, gwnewch hyny. Ac yn enwedig beth bynag ddywed wrthych am beidio, wnewch chi beidio? Rhowch ufudd—dod i'r gydwybod. Wel, os oes eisio rhoi ufudd—dod i Dduw, wel, Duw sydd yn siarad yn y gydwybod, yn eich rhybuddio. Wel, rhowch ufudddod i'r gydwybod, beth bynag ddywed hi wrth neb o honoch. Mae y gair yma yn cadarnhau y peth oeddwn yn ceisio ei ddweyd, y gair sydd ar ol yr adnod hon, "Profwch bob peth, deliwch yr hyn sydd dda." A'r ffordd i wneyd hyny ydyw, "Ymgedwch rhag pob rhith drygioni. A gwir Dduw y tangnefedd a'ch sancteiddio