yn gwbl oll; a chadwer eich ysbryd oll, a'ch enaid, a'ch corff, yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist." Mae hynyna gyda "dal yr hyn sydd dda." Mae y "gwir Dduw a'i dangnefedd" yn y ffordd yna, nid yr un ffordd arall. Nid yw cydwybod yn ddigon i sancteiddrwydd, ond y mae yn ffordd i sancteiddrwydd, —dyna y llwybr. Y mae yr Arglwydd yn bur sicr, os byddwch chwi yn myned yn mlaen ar lwybr geiriau yr Apostol yn y fan yma, mi wna Efe i chwi fod yn sanctaidd. Ufuddhewch chwi i'ch cydwybodau, ac yna y mae y "gwir Dduw a'i dangnefedd yn eich sancteiddio yn gwbl oll." Nid peth ar unwaith ydyw hwn. Mae y bydol, y cnawdol, wedi darfod i gyd, pob awydd am fyned ar ol pechod wedi darfod, "a'ch sancteiddio yn gwbl oll; a chadwer eich ysbryd oll, a'ch enaid, a'ch corff,"—dyna "yn gwbl oll." Ysbryd, ac enaid, a chorff, beth bynag ydyw y gwahaniaeth rhyngddyntmae yn debyg fod rhywbeth, ond y mae "cwbl oll" yn y geiriau, "eich ysbrydoll, a'ch enaid, a'ch corff, yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist." Fe ddaw hyny yn fuan, "dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist."
"Ceir gwel'd gan bwy mae sylwedd,
A phwy sydd heb y gwir."
"Rhaid i ni oll ymddangos gerbron brawdle Crist." Mi ddaw ar y cwmwl, "a phob llygad a'i gwel." A beth dâl hyn yn y dydd diweddaf—"bod yn ddiargyhoedd?" "Yn ddiargyhoedd,"—dim blot yn ein herbyn ni, wedi ein sancteiddio yn berffaith lân, heb ddim brycheuyn na chrychni,—"yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist." Ydi y gwaith da wedi ei ddechreu? Ydi o wedi dechreu—y gwaith o sancteiddio? A chwestiwn arall, Ydech chi ar dir y gallwch ddysgwyl i Ysbryd Duw ddechreu y gwaith yma?