Gwirwyd y dudalen hon
Ydech chi gyda y moddion, yn dilyn y moddion, yn darllen y Beibl, ac yn gweddio? Ydech chi ar y tir y gallwch ofyn i Ysbryd Duw "eich sancteiddio yn gwbl oll." Daliwch afael yn y pethau mawr hyn. Amen.
[Salem, Dolgellau, Nos Sul, Rhagfyr 21ain, 1882.]
O! Efengylydd mawr ei ddawn—
Adnoddau'r lawn a'i haeddiant
Edmyga'i galon hyd ei chraidd,
Ac iraidd ei fynegiant;
Arlunia 'n bwyllog geinion nef
O'u haddef byw tragwyddol
Ac weithiau chwydda ton o hwyl—
Cynhyrfa'i ysbryd eon, gwyl—
O! egwyl wir arddunol!!