Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

𝖄 𝕻𝖆𝖗𝖈𝖍. 𝕺𝖜𝖊𝖓 𝕿𝖍𝖔𝖒𝖆𝖘, 𝕯 𝕯.

FEL "Pregethwr y Bobl," mae yn rhaid gosod OWEN THOMAS yn flaenaf yn mysg ei gydoeswyr. Yr oedd yn boblogaidd yn mysg pob dosbarth. I'r genhedlaeth bresenol o wrandawyr canol oed, a rhai ieuengach, clywed Owen Thomas yn ei hwyliau yn pregethu roddai y syniad goreu a chywiraf am y dylanwad rhyfedd fyddai yn cydfyn'd a gweinidogaeth y tadau a godasant bregethu Cymru i enwogrwydd a bri. Meddai hyawdledd areithyddol nodedig, ac yr oedd wedi yfed yn helaeth o danbeidrwydd ysbryd cewri y diwygiadau crefyddol sydd wedi hynodi ein gwlad.

Ganwyd Dr. Owen Thomas yn Nghaergybi, Sir Fon, ar haner dydd, Rhagfyr 16eg, 1812. Efe oedd y cyntafanedig o wyth o blant. Breintiwyd ef â rhieni crefyddol ac o ddoniau uwchlaw y cyffredin. Yr oedd ei dad, o'r un enw ag yntau, yn wr tyner a charuaidd, yn meddu barn a gwybodaeth ragorol, ond bu farw yn gynar, yn 46 ced. Nodweddid ei fam gan gallineb a chrefyddolder ysbryd: cerddodd lawer gwaith o Fon i Sasiynau y Bala a lleoedd eraill. Mae hanes boreu oes Owen Thomas yn adrodd ei fod yn ddysgwr dihafal yn blentyn; daeth yn ddarllenwr mawr, a gwasanaethodd ei gymydogion yn fuan drwy fyned o dy i dy i ddarllen rhanau o'r Beibl. Yr oedd gwiando ac ysgrifenu pregethau yr hyfrydwch penaf ganddo, a meithrinwyd ynddo drwy hyn syniad addolgar bron am fawredd pregethwr a'i swydd. Ar hyd ei oes yr oedd ganddo gof hynodyr oedd holl ddygwyddiadau a helyntion bywyd, yn fychain a mawrion, ar gof a chadw ganddo, ac yn wastad ger ei fron. Daeth hyn i'r golwg ynddo yn foreu. Dysgodd lawer o lyfrau y Beibl yn gyfan ar ei gof, ac adroddodd hwy yn gyhoeddus. Dysgodd lyfrau eraill felly. Wedi cael ychydig o addysg elfenol yn Nghaergybi,