Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cawn ef tua thair ar ddeg oed yn myned i weithio fel saer ceryg at ei dad, gan fod amgylchiadau y teulu yn isel a gwasgedig y pryd hwn. Yn 1827 symudodd y teulu i Fangor i fyw. Bu yn gweithio gyda'i dad am tuag wyth mlynedd, ond trwy yr amser darllenai, myfyriai, a dadleuai gyda'i gydweithwyr, ar bob pwnc a llyfr ddeuai i'w afael, ac ymarferai a phob rhan o waith cyhoeddus ond pregethu. Holodd y blaenoriaid ef ar y pwnc hwn, ac wedi deall ei fod a'i fryd ar hyny, rhowd ei achos o flaen yr eglwys, a chafodd dderbyniad serchog; felly dechreuodd bregethu yn 1834, a'r Sul cyntaf wedi ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol bu yn pregethu yn yr awyr agored am y waith gyntaf, ac felly yr oedd o'r cychwyn yn "bregethwr maes." Cynyddodd ei boblogrwydd fel pregethwr, ac fel areithiwr gyda'r diwygiad dirwestol oedd yn boblogaidd yn Nghymru yr adeg hon. Bu yn teithio llawer trwy Dde a Gogledd Cymru. Yn 1838, dechreuodd fel efrydydd yn Athrofa y Bala, dan Dr. Edwards, ac yn 1841 aeth i Edinburgh gyda y diweddar Dr. Parry. Yn 1844 ymsefydlodd fel gweinidog yn Mhwllheli, ac ordeiniwyd ef yr un flwyddyn yn Mangor. Yn 1846 symudodd i'r Drefnewydd, lle cafodd ymarferiad mewn pregethu Saesneg. Yn 1851 galwyd ef i fugeilio Jewin Crescent, Llundain, lle y gweinidogaethodd am 14 mlynedd, gyda llwyddiant mawr. Priododd yn 1860 ag Ellen, merch ieuengaf y diweddar Barch. Wm. Roberts, Amlwch. Yn 1865 symudodd i Netherfield Road, Lerpwl, a thua 1867 anrhydeddwyd ef a'r teitl o D.D. gan un o Golegau yr America. Ymgymerodd a bugeiliaeth eglwys Princes Road yn 1871, yn yr hwn gysylltiad y parhaodd hyd nes eu gwahanwyd gan angeu. Traddododd ei bregeth olaf Chwefror 22ain, 1891, a boreu Sabbath, Awst 2il, wedi misoedd o afiechyd, bu farw yn yr oedran teg o 79, er galar mawr trwy Gymru oll.

Yr oedd llafur llenyddol Dr. Owen Thomas yn fawr iawn. Cyfoethogodd y Traethodydd a chynyrch amryddawn ei ysgrifell. Ond y gweithiau arhosol, y pery ei enw yn beraroglus byth yn nglyn a hwy, ydynt Cofiantau John Jones, Talysarn, a Henry Rees. Yr oedd yn gofiantydd digymhar, ac y mae ar ei oreu yn y rhai hyn, Gwerthfawr nodedig yw ei nodiadau yn nglyn ag Esboniad Kitto, yn arbenig yr Epistol at yr Hebreaid. Meddianwyd ef gan hoffder anarferol at y copiau goreu o bob llyfr gyhoeddid, a bendith o'r fwyaf yw fod