Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei lyfrgell ardderchog wedi ei chadw heb ei gwasgaru, a'i rhoi yn rhodd gan y boneddwr, W. Thomas, Ysw., Bootle, i Athrofa Dduwinyddol y Bala.

FEL PREGETHWR.

Yr oedd yn Dr. Owen Thomas gyfuniad o amryw ragorion. Tystia pawb a'i clywodd ei fod yn un o wir feistriaid y gynulleidfa. Yn nghynlluniad ei bregethau, ac effeithiolrwydd a hyawdledd y traddodiad o honynt, yr oedd ar ei ben ei hun. Byddai ei ragymadrodd yn ddernyn meistrolgar. Ceid esboniadaeth eang a manwl ar y testyn; eglurai y gwahanol olygiadau; rhoddai resymau dros y golygiad a fabwysiadai ef; ac o ddeall y geiriau yn y cysylltiadau hyny, nodai y mater yr oedd geiriau y testyn yn rhoddi mantais i alw sylw ato, a cheid rhaniadau drachefn, yn gyntaf, yn ail, ac yn drydydd. Amcan ymarferol y rhagymadrodd fyddai gwneyd lle i osod y bregeth a'i chyflegrau nerthol i lawr. Wedi nodi y materion, byddai sylw pob gwrandawr yn llwyr ganddo, a chanddo air i bob un, byddai ei holl ysbryd yn ferw o danbeidrwydd a difrifwch yn dadleu, yn ymryson, yn ymliwied, yn galw, yn gwahodd, yn cymell, yn awr yn dychrynu ac yna yn denu ac yn perswadio dynion i ufuddhau i alwadau Duw yn efengyl ei Fab,-gwasgai y pechadur i gongl, ac yno mewn melusder dangosai i bechadur ar ddarfod am dano y ddihangfa ogoneddus yn nghysgod Iawn Calfaria fryn. Heblaw hyn, hynodid Dr. Thomas gan draddodiad hyawdl ac effeithiol. Talodd fwy o sylw i'r ddawn hon nac odid neb. Meddai lais oedd fel udgorn arian, yn dreiddgar a soniarus, ac yr oedd y grec gryniadol oedd yn ei lais yn swynol iawn. Parablai yn rhwydd ac eglur. Trwy ei apeliadau calon-gynhyrfiol at bechadur, a'r modd y pwyntiai at wahanol ranau y gynulleidfa, gan ail ofyn ac ail ddweyd ei fater, gyda'i lais clochaidd ac arianaidd, cynyrchai effaith drydanol a llethol yn fynych. Bu yn llwyddianus iawn i ddeffro a chyffroi miloedd o wrandawyr difraw ac anghrediniol. Yr oedd yn ei weinidogaeth dân ysol yn llosgi, gwynt nerthol yn rhuthro, taranau yn rhuo, a mellt yn saethu gyda sydynrwydd dychrynllyd, nerthoedd y byd a ddaw yn ysgytio y cynulleidfaoedd, ar ol yr hyn oll byddai y llef ddystaw fain a Duw ynddi yn tyneru