Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ysbryd y dorf i blygu mewn ufudd—dod ffydd. Yn wyneb hyn, nid 1hyfedd fod Dr. Thomas yn cymeryd y lle blaenaf yn odfeuon y maes yn Sasiynau Cymru am y rhan helaethaf o'i oes, ac wedi cael llawn mwy na neb o odfeuon hynod. Yn hytrach nag ymhelaethu, dodwn yma adgofion am ddwy oedfa neillduol a gafodd, sydd yn rhoi syniad pellach am dano fel pregethwr,

Sasiwn Llangeitho, 1859.
Gan y Parch, J. MORGAN JONES, Caerdydd.

Cynhelid odfa olaf Sasiwn Llangeitho, 1859, yn y capel, ac er fod y rhan fwyaf o'r dyeithriaid wedi ymadael, cafodd yr addoldy ei orlenwi yn mhell cyn amser dechreu—yr oedd o ddwy fil i ddwy fil a haner o bobl wedi ymwthio i mewn y noson hono. Pregethid yn mlaenaf gan y Parch. Evan Harries, Merthyr, y tro olaf i mi weled yr hen bererin. Er mor ffraeth a tharawiadol oedd ei ergydion, methodd ddeffro y dyrfa drwyddi y noson hono. Ar ei ol cododd y Parch. Owen Thomas, a chymerodd yn destyn y geiriau hyny yn Hebreaid ix. 14, "Pa faint mwy y bydd i waed Crist," &c. Yr oedd rhyw ddifrifwch annaearol yn ei wedd pan yn codi, a darllenodd ei destyn mewn goslef mor effeithiol nes hoelio y gynulleidfa wrth ei wefusau o'r frawddeg gyntaf. Dechreuodd yn bur athronyddol, gan olrhain y gydwybod yn ei gwahanol weddau; darluniai hi fel ysgrifenydd yn cofnodi gweithredoedd, ac fel swyddog yn gwobrwyo neu yn cosbi'r dyn am ei weithredoedd ar ol eu cyflawni. Ond er fod yr ymdriniaeth yn bur arddansoddol, ac yn cario y rhan fwyaf i diriogacth na wyddent fawr am dani, eto i gyd, yr oedd tryloewder y sylwadau, goslef ddifrifddwys y pregethwr, yn nghyda'r cymhariaethau cyfarwydd a tharawiadol a ddefnyddid ganddo, yn peri ei fod yn ddealladwy i'r holl dorf. Yn y man ymwasga yn nes at y bobl, a chyda hyny dyna ei holl natur yn cyffroi, daw y geiriau allan o'i enau yn gyflym ac yn boethion fel pelenau wedi bod mewn ffwrnes, a thyna dân y pregethwr yn ymaflyd yn y gwrandawyr. Cyffelybai y gydwybod yn cofnodi i ddyn yn ysgrifenu â patent ink; pe byddai rhywun yn edrych dros ysgwydd hwnw gallai dybio nad yw wedi ysgrifenu dim, oblegyd ymddengys y ddalen o'i flaen yn wen; ond wrth ddal y papyr o flaen y tân daw y brawddegau, y geiriau, a'r llythyrenau oll i'r golwg, ïe, hyd yn nod y dot bach