Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

uwchben yr i. Yr un fath, peth hollol anweledig yw ysgrifen cydwybod i lawer ar y ddaear, ond yn y trueni, yn ngoleu tân uffern, bydd y cyfan a ysgrifenwyd ganddi yn ddarllenadwy i bawb o honynt. Erbyn hyn, nid ces un enaid o'r tufewn i'r addoldy nad ydyw wedi ei sobri; ond parhau i lifo i mewn y mae y llanw. Ymddengys y pregethwr fel Boanerges, neu ynte fel Moses yn disgyn oddiar ben Sinai, wedi bod yn derbyn y gyfraith o law Duw, ac yn ysgwyd i fysg y dyrfa y mellt oedd wedi llechu yn mhlygion ei fantell; eistedda cwmwl digofaint ar ei ael, a dyrchafa ei lais fel udgorn yr archangel. Gydag areithyddiaeth berffaith, darluniai ddyn wedi colli ei synwyrau mewn gwallgofdy yn America. Byddai'r gwallgofddyn yn dynwared dyn yn anelu a dryll, ac yn tynu'r trigger; yna gwaeddai, Fire! Fire! He is dead! He is dead! Dywedai'r ceidwad mai mab ydoedd i Dr Rush, o Philadelphia; ei fod wedi lladd ei wrthwynebydd wrth ymladd gornest, ac mai dyna'i waith er pan ddaeth i'r gwallgofdy, ail fyw y gyflafan a gyflawnwyd ganddo. Gwelodd y bobl y cymhwysiad bron cyn i'r pregethwr ei ddweyd, mai gwallgofdy yw uffern, ac mai gwaith y gwallgofiaid yno yw ail—fyw yr hen bechodau ysgeler gyflawnwyd ganddynt ar y ddaear, a llenwid eu meddwl à braw gan y syniad ofnadwy. Erbyn hyn, yr oedd y dylanwad bron yn ormod i'r pregethwr ei hun ymgynal dano; pe buasai dyn cyffredin yno, aethai yn sypyn marw dan y pwysau; ond daliodd ef, a throdd y cyffro yn wynt tan ei adenydd i esgyn yn uwch i'r uchelion fry. Yn awr, dyna ef yn cydio yn y Beibl oddiar y pulpud, yn ei godi rhwng ei freichiau, gan ysgwyd o'r naill ochr i'r llall fel dyn wedi dyrysu, a gwaedda y geiriau a roddir yn yr Ysgrythyr yn ngenau creadur wedi ei golli, "Pa fodd y caseais i addysg? Pa fodd? PA FODD? PA FODD?" Ar unwaith dyna gymaint o'r gynulleidfa ag oedd yn eistedd o'r blaen ar eu traed fel gallt o goed, ac yn edrych fel pe ar fin gwallgofrwydd. Dyrchafa un och ddofn, dorcalonus, i fyny o fynwesau dwy fil ar unwaith, nes peri i mi deimlo fy ngwaed yn aros yn fy ngwythienau, a'm gwallt yn sefyll fel cwils ar fy mhen. Wrth godi fy ngolwg, gwelwn greaduriaid celyd, a ddaliasai holl nerthoedd y Diwygiad, a'u gwynebau wedi myned yn wynion fel calch, a'u gliniau yn curo yn nghyd fel eiddo Belsassar. Yr oedd y merched gwamal welswn yn cellwair amser y bregeth gyntaf erbyn hyn wedi troi eu ffedogau am eu penau fel rhai heb wybod beth i wneyd, a thorent allan i wylo yn uchel.