Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ni fum mewn lle mor ofnadwy erioed. Bum mewn ystafelloedd dynion yn marw, ac yn cyfranogi o'r difrifwch sydd yn ffynu yno. Bum yn yr hall yn gwrando prawf creadur tlawd yn cael ei dreio am ei fywyd, yn gweled rhwydwaith y tystiolaethau yn cau am dano, yn gwrando siars y barnwr i'r rheithwyr, ac yn dysgwyl mewn dystawrwydd brawychus am y verdict. Ond erioed ni theimlais y fath ddifrifwch brawychus a hwn. Braidd na chredem fod y clawr wedi cael ei godi oddiar y pydew diwaelod, ac mai dolef creadur colledig yn ymgodi o'r dyfnder obry oedd y floedd "Pa fodd y caseais i addysg?" ac mai gruddfanau y cwmni truenus o'i gwmpas oedd ocheneidiau y dorf. Ond y mae y pregethwr yn parhau. "Pa fodd y dirmygodd fy nghalon gerydd? Pa fodd? PA FODD? PA FODD? Pa fodd na wrandawswn ar lais fy athrawon? Pa fodd! PA FODD! PA FODD!!" Yn sicr, nis gall cnawd ddal peth fel hyn fawr yn hwy. Ond yn sydyn, saf y llefarwr, yna dyna wedd ei wyneb yn newid, y cwmwl du yn clirio oddiar ei ael, a'r llygaid fuasai yn melltenu mor ofnadwy yn tyneru i'r mwyneidd-dra tynera' erioed, ac mewn bloedd gynhyrfus, eto orlawn o felusder gobaith, gofyna: "A oes rhywbeth a fedr buro y gydwybod?" Dystawa yr ocheneidiau am eiliad, dalia y gynulleidfa ei hanadl i ddysgwyl am yr atebiad, fel pe byddai anobaith wedi rhoddi ffordd i bryder, a theyrnasa dystawrwydd dwfn fel y bedd. A dyma yr atebiad yn dyfod fel swn olwynion cerbyd trugaredd: "Bendigedig fyddo Duw, oes y mae, Y GWAED!" Dyna ryw ddyn o ganol y llawr yn rhywle yn rhoddi bloedd felusach na'r diliau mêl: "O! diolch!" Cipiodd y dorf y floedd i fyny, ac aeth yn un fonllef o haleliwia a diolch trwy'r capel. O'r anwyl, dyna ymwared. Yr oedd fel pe byddai'r cymylau duon gwgus fuasai yn gorchuddio'r ffurfafen yn cael eu hysgubo i ffwrdd, a'r nefoedd lås, serchog, dryloew, oedd tu hwnt yn cael ei ddatguddio, neu ynte fel dyfodiad bywyd—fad at nifer o forwyr llong—ddrylliedig wedi bod am oriau lawer ar wyneb y cefnfor, ac heb ddim ond darn astell rhyngddynt a suddo. Bid sicr, oferedd meddwl am bregethu yn hwy, ond yr wyf yn tybio i'r pregethwr geisio gorphen y cyfarfod trwy weddi, oblegid gwelwn ef yn cau ei lygaid ac yn dyrchafu ei wyneb tua'r nef, eithr ni chlybuwyd sill o'r weddi hono gan neb ond Gwrandawr gweddi ei hun, ac yn yr addoldy y buwyd am oriau.