ymledu drwy yr adeilad, a chyn pen ychydig yr oedd hen eiriau cysegredig y Diwygiadau gynt wedi adgyfodi ac yn cyniwair drwy y lle. Dystawodd y pregethwr, ac nid wyf yn cofio ychwaneg, heblaw i mi gael fy hunan toc yn nghanol mintai o frodyr a chwiorydd yn canu a'u holl egni
"Pen Calfaria,
Nac aed hwnw byth o'm cof."
Fel y canlyn yr ysgrifenai cyfaill dranoeth yr oedfa,—Y blaenaf i bregethu yn yr oedfa ddeg yn y Pavilion oedd y Parch. Thomas Rees, Merthyr. Mater ei bregeth oedd "Twyll Pechod," ac yr oedd yr effaith yn ddwys iawn. Wedi canu penill, esgynodd Dr. Owen Thomas i'r areithfa, a chymerodd ei destyn yn Rhuf. viii. 32, "Y'r Hwn nid arbedodd ei briod-Fab, eithr a'i traddododd Ef drosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry Efe i ni bob peth?" Yr oedd yn amlwg o'r dechreu fod y pregethwr mewn cywair da—ei lais treiddgar yn glir ac ystwyth, a'i ysbryd yn fywiog a brwdfrydig. Yr oedd ganddo, fel arfer, amryw benau i'w bregeth, y rhai a ailadroddid gyda phwyslais nes eu sicrhau yn meddwl a chof pob gwrandawr. Fel yr elai rhagddo ymchwyddai ei lais, a dadseiniai ei frawddegau drwy yr adeilad. Yr oedd dwysder amlwg wedi meddianu y gynulleidfa, treiglai deigryn gloew dros aml i rudd, a chlywid ambell "Amen" twymn fel adlais i frawddegau y pregethwr. Elai yntau rhagddo gyda nerth adnewyddol, treiddiai bywyd trwy bob cymal o hono. Dysgleiriai ei wyneb, toddai ei lais, a chyda'r areithyddiaeth hono sy'n adnabyddus i filoedd o wrandawyr Cymru, adroddai am hen wreigan grefyddol yn cyfarch ei Gwaredwr gan ddweyd—"Iesu mawr! nid wyf yn gallu dy garu, dy folianu, na dy wasanaethu fel y dymunwn, ond cofia, 'dwyt ti ddim ond yn ei haros hi!" Gyda'i fod wedi dweyd y sylw hwn, ymdaenodd rhyw deimlad dyeithrol dros y gynulleidfa; llenwid y fan gan swn "Amenau," "Bendigedig," a chyffelyb eiriau, ac nid gormod yw dweyd fod miloedd o ruddiau yn wlybion gan "ddagrau melus iawn." Safai y pregethwr fel pe. wedi ei ddal gan syndod, tra y dyrchafai lleisiau gorfoleddus oddiamgylch. Yr oedd y cyfan mor ddisymwth, mor annysgwyliadwy, ac mor ddwys fel na ellid petruso am achos a ffynhonell y fath ddylanwadau. Yn mhen ychydig, dechreuwyd canu yr emyn anwyl hono, "Gwaed y groes sy'n codi fyny," ar hen