Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dôn boblogaidd William Owen, Prysgol. A thra yr oedd un ran o'r gynulleidfa yn canu yr emyn, yr oedd rhan arall mewn hwyl gorfoledd, yn cymysgu y gerddoriaeth â'r hen dermau hyny sydd wedi myned mor ddyeithr mewn cyrddau crefyddol er's llawer dydd, "Bendigedig," "Gogoniant i'w enw," "Diolch am Waredwr," &c. Ac yn nghanol yr amlygiadau ardderchog hyn o deimlad y terfynodd un o'r oedfaon hynotaf.

Dyma dystiolaeth ychwanegol am yr un oedfa,—Yr oedd yr oedfa ddeg o'r gloch yn y Pavilion yn un a hir gofir. Pregethai y Parch. Thomas Rees, Merthyr, ar "Dwyll Pechod," ac yn mhell cyn iddo orphen ei bregeth yr oedd yn amlwg fod rhyw arddeliad Dwyfol ar ei eiriau. Ar ei ol, pregethodd Dr. Thomas ar y geiriau—"Yr Hwn nid arbedodd ei briod Fab," &c. Gan fod teimlad dwys wedi ei gynyrchu gan y bregeth gyntaf, nid rhyfedd o gwbl i'r fflam gynyddu dan weinidogaeth danbaid y Dr. Thomas—"pregethwr y bobl" yn Nghymru. Yr oedd ei lais yn diaspedain drwy yr adeilad eangpob gair yn swnio ar glustiau pawb oedd yn bresenol, —ei ddull o ail-adrodd ei frawddegau, ail ofyn ei gwestiynau, &c., yn cael argraph ddofn ar y gynulleidfa Troai at ran o'r adeilad a gofynai—"Pa wedd gydag Ef, na ddyry efe i ni bob peth?" Yna, taranai yr un cwestiwn yr ail waith, gan droi y tro hwn i gyfeiriad arall, gyda'i lygaid yn melltenu, a difrifwch yn llenwi ei wynebpryd, a'i fys yn pwyntio fel pe buasai yn herio unrhyw un i ateb y cwestiwn. Yr oedd desgrifiad yr Efengylydd poblogaidd o'r Arglwydd Iesu fel "Oen Duw" wedi cael eftaith anarferol ar y dorf, a phan adroddedd hanesyn am hen wraig dduwiol, yr hon a ddywedai wrth yr Iesu mewn gweddi, ei bod yn methu ei garu fel y dymunai, ac a ychwanegai—"Iesu anwyl, 'd'wyt ti ddim ond yn ei haros hi"—gorchfygwyd y dorf enfawr. Llefodd un hen chwaer yn nghanol y dyrfa "Ie, wir, Amen! Diolch!" Ac yna, gyda rhyw swn anesgrifiadwy aeth y dòn o orfoledd dros yr holl adeilad—yr "Amenau," "Bendigedig," "Gogoniant," yn llanw y lle fel swn dyfroedd lawer. Nid oedd odid wyneb sych yn un man. Curai rhai eu dwylaw dan waeddi "Bendigedig," tra y synfyfyriai eraill gyda gruddiau gwlybion a'r naill haner o'r gynulleidfa ar eu traed yn gorfoleddu. Yn nghanol yr olygfa, methai y pregethwr ar y foment a phenderfynu