Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

๐•ด๐–†๐–ˆ๐–๐–†๐–œ๐–‰๐–œ๐–—๐–Ž๐–†๐–Š๐–™๐– ๐–ž๐–“ ๐–๐–†๐–œ๐–‰๐–‰.

Gan y diweddar Barch, Owen Thomas, D.D., Liverpool

"Eithr y mae y cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn: Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i'r nef? (hyny yw, dwyn Crist i waered oddiuchod); neu, Pwy a ddisgyn i'r dyfnder? (hyny yw, dwyn Crist drachefn i fyny oddiwrth y meirw); eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae y gair yn ages atat, yn dy enau ac yn dy galon hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu; mai os cyffesi a'th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi." RUUFEINIAID X. 6โ€”9.

MAE yr esgusodion a ddefnyddir gan ddynion yn erbyn ymroddi o ddifrif i grefydd yn lluosog ac yn amrywiol, ac yn aml iawn yn gwbl groes i'w gilydd. Fe edrychir arni weithiau ganddynt fel rhywbeth fechan iawn, hawdd iawn, nad oes eisiau dim trafferth o gwbl gyda hi; ac y bydd rhoi ychydig amser ar ddiwedd yr oes, ar ol myn'd yn anghymwys at bob-beth arall, pan yn cael eu hunain ar gyffiniau y byd tragwyddol, yn llawn ddigon i wneyd heddwch รข Duw a pharotoi at dragwyddoldeb. Y mae rhai yn coleddu meddyliau isel iawn am grefyddโ€”heb ddim dirnadaeth, yn wir, am y drwg ofnadwy sydd mewn pechod, am eangder cyfraith Duw; a chyda rhyw hyder yn nhrugaredd a gras Duw yn meddwl y bydd ychydig amser