Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar wely angeu, yn ymyl tragwyddoldeb, yn ddigon i grefydd, ac felly yn oedi o ddydd i ddydd, ar hyd yr oes, heb ymroddi iddi. Y mae arnaf ofn y gall fod yn y gynulleidfa yma heddyw rywrai sydd yn perswadio eu hunain yn y difaterwch personol hwn, gyda rhyw fân resymau fel yna. Eraill yn oedi oddiar dybiau hollol wahanol—yn edrych ar grefydd fel rhywbeth mawr, uchel, anhawdd ac yn gwbl anobeithiol iddynt hwy lwyddo dim mewn ymdrech gyda hi. Mae Duw mor fawr, mor sanctaidd; mae eu calonau hwythau mor ddrwg a'u pechodau mor fawr. Y maent yn anobeithiol—yn tybio mai hollol anobeithiol iddynt hwy fyddai dodi amser at grefydd, ei bod yn rhywbeth pell uwchlaw iddynt. Feallai mai hwnyna yw yr eithaf y mae dyn yn fwyaf tueddol iddo. Pan y daw i ddechreu teimlo pryder yn nghylch ei achos personol rhyngddo â Duw—wedi iddo gael y pechadur yn ei berson ef ei hunan, yr euog dan ei groen ef ei hunan, yn cael ei hunan wedi tori cyfraith y nefoedd, yn ymdeimlo felly â phwysau euogrwydd, y mae braidd yn y perygl o syrthio i dir Cain, ac mewn anobaith yn dweyd, “Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddeu." Y mae yn bur sicr, ar un olwg ar grefydd fel yna, ei bod yn rhywbeth mawr, uchel, anhawdd, ac o du y dyn ei hunan, anmhosibl. "A phan glybu ei ddysgyblion ef hyn, synu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy gan hyny a all fod yn gadwedig? A'r Iesu a edrychodd arnynt ac a ddywedodd wrthynt, Gyda dynion anmhosibl yw hyn, ond gyda Duw pobpeth sydd bosibl." Ac o'i anfeidrol ras, y mae wedi darpar trefn tuag at hyny, ac y mae y drefn hono yn cael ei chyflwyno ger ein bron ni yn yr Efengyl. Acer amlygiad helaethach o'r graslonrwydd dwyfol a gynhyrfodd, hwyrach, deimlad y pechadur pyderus yn y drefn hon, y mae yr iachawdwriaeth, nid yn unig yn bosibl, ond yn hawdd. Nid yn unig y mae yn gyrhaeddadwy, ond y mae yn