ymyl. A dyna y gwirionedd gwerthfawr iawn, dybiaf, sydd yn y geiriau ddarfu i mi ddarllen fel testyn. Mae y geiriau yma, yr ydych yn gweled, yn cael eu dyfynu gan yr apostol, oblegyd dyfyniad hollol ydynt o'r gair a gawn yn Deuteronomium; ac yn y cysylltiad y cawn hwy yno gan Moses, mae yn amlwg eu bod wedi eu bwriadu er dangos mor eglur yr oedd y dadguddiad a roddesid gan yr Arglwydd drwyddo ef i'r genedl,—mor eglur ydoedd, mor agos atynt, fel nad oedd raid iddynt gael neb i esgyn i'r nefoedd i'w ddwyn atynt; nad oedd raid iddynt groesi y moroedd a myn'd i wledydd dyeithr, yn ol haeriad rhai, er mwyn ychwanegu at eu gwybodaeth; fod y dadguddiad yn eu hymyl, y gair yn agos iawn atat, "yn dy enau ac yn dy galon." Y mae y Cyfieithiad Diwygiedig yn ychwanegu "yn dy ddwylaw," y gair yn agos atat, ac yn dy galon i'w wneuthur ef. Mae yr apostol yn cymhwyso y geiriau yna at ddadguddiad grasol Duw yn y drefn i gadw pechaduriaid. Y ffordd y mae yn gwneyd hyny, nid wyf yn tybio fod yr esbonwyr goreu yn gallu cytuno a'u gilydd. Tybia rhai fod yr apostol yn defnyddio y geiriau yn hollol yn ystyr Moses, ac felly yn eu dwyn yn ystyr briodol Moses, (fel yr oedd ef yn eu deall) er cadarnhau ei syniad ef am gadwedigaeth pechadur. Mae esbonwyr da iawn yn barnu fel yna,—Gibbon a Lawford yn gwneyd hyny. Y mae fod y fath ddynion yn eu derbyn yn penderfynu fod llawer i'w ddweyd o'i blaid. Yr oedd y ddeddf a roddwyd trwy Moses a rhyw wedd ddyblyg iddi—yn cynwys y gorchymyn a'r addewid, y ddeddf foesol a'r ddeddf seremoniol; a'r dadguddiad yn eglur, yn bur sicr y pryd hwnw, o drefn anmherffaith o faddeuant yn ol trefn maddeuant drwy aberth y poethoffrwm; a'r aberthau dan y gyfraith wedi eu bwriadu i rag—ddangos ac i gysgodi yr Aberth Mawr yr oedd maddeuant drwyddo. Ac felly gallasai Paul yn hollol briodol gymeryd y geiriau yn ystyr Moses ei hunan
Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/56
Gwedd