i waered oddiuchod), neu, Pwy a ddisgyn i'r dyfnder? (hyny yw, dwyn Crist drachefn oddiwrth y meirw).
Yn yr ail le: Y mae y dadguddiad o'r drefn yna yn yr efengyl mor eglur ag y gall y gwanaf ei ddeall ei gyrhaedd a'i amgyffred. "Mae y gair yn agos atat, yn dy enau ac yn dy galon."
Ac yn y trydydd lle: Y mae amodau cadwedig. aeth yn iachawdwriaeth yr efengyl yn rhai isel, a'r hawddaf oedd yn bosibl iddynt fod. "Os cyffesi a'th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi."
Y mae iachawdwriaeth yn beth hawdd! Sut yr ydych yn dweyd,—fod iachawdwriaeth yn beth hawdd i mi? Wel, dyna y sut cyntaf: Y mae pob peth angenrheidiol er gosod i lawr y sail i dy gadwedigaeth di wedi ei wneyd eisoes gan Iesu Grist. 'Does dim eisicu i ti wneyd dim ffordd yna. Gellwch dybied am gadwedigaeth mewn un o ddwy ffordd,—naill ai drwy weithredoedd neu drwy ras—naill ai drwy y ddeddf ai trwy ffydd. Y llwybr naturiol i ddyn, yn ddiameu, ydyw drwy weithredoedd, drwy ddeddf. Dyna ddeddf gyffredin creadigaeth Duw i gyd. Mae pob creadur yn ddedwydd wrth gydymffurfio â deddf ei natur. Yr un modd am yr angylion, y rhai a gadwasant eu dechreuad,— maent yn ddedwydd heddyw yn y nefoedd, yn rhodio gerbron Duw, ac mi fyddant felly byth. Y maent felly yn awr, ac felly y maent wedi bod o'u creadigaeth, oblegyd eu cydymffurfiad perffaith â deddf eu natur. Fel yna yr oedd dyn, —yn ddedwydd yn ei greadigaeth gyntaf, pan ydoedd yn ei berffeithrwydd. Sut yr ydych yn dysgu yn yr Ysgol Sul? "Yn mha gyflwr y creodd Duw ddyn?" "Mewn cyflwr sanctaidd