Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dweyd nad ydyw Iesu Grist wedi myn'd yno. Y mae o wedi myn'd i'r nefoedd, ac wedi myn'd i'r nef âg haeddiant anfeidrol ganddo. A fynet ti iddo ddod i lawr eto i wneyd y gwaith eilwaith? 'Does dim eisieu iddo wneyd; y mae o wedi ei orphen. Y mae o wedi myn'd yno drwy ei waed ei hun, wedi myn'd yno yn dy achos di. Y mae wedi myn'd yno yn dy blaid di. Y mae wedi myn'd i mewn i'r nef, i'r cysegr, drwy ei waed Ei hun. Ac y mae dy waith di eisiau cael rhywun i fyn'd yno cystal a dweyd nad aeth yno, ac nad yw wedi gwneyd y gwaith. 'Does dim eisieu iddo ddod i lawr eto, myn'd i'r tlodi eto, i'r groes eto, i farw eto, i'r ing eto, dim eisieu. Mae digon byth ar lyfrau'r nef dros bechadur, wedi ei wneyd pan aeth yno y tro cyntaf. "Pwy a ddisgyn i'r dyfnder?" Yno yr wyf fi yn haeddu bod. Pwy ga'i i fyn'd dan y felldith? Pwy ga' i i ddyoddef fy nghosb? Pwy ga' i? Fedra i ddim myn'd fy hunan. Pwy ga' i? Yr wyf yn cael y gyfraith yn gwaeddi, “Melldigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau hyn i'w gwneuthur hwynt." A finau ddim wedi aros yn yr un o honynt! Pwy ga' i i fyn'd i'r dyfnder yn fy achos i? "Na ddywed hynyna yn dy galon." Y mae Iesu Grist wedi bod yno. Yn mha le yr oedd? Beth oedd ystyr yr Iawn? Beth oedd ystyr y chwys gwaedlyd yna? Beth oedd loesau Calfaria? Beth oedd "y llefain cryf a dagrau?" Beth oedd "Fy Nuw! fy Nuw! paham y'm gadewaist?" Pa le y mae? Yn y dyfnder. "A'r holl donnau a'r llifeiriant a aethant troswyf;" digofaint yn pwyso arnaf. Dyna fo gyda dy achos di, yn dy le di, yn talu dy ddyled di, yn cyfrif gofynion cyfiawnder yn dy le di. Ac wrth i ti fyn'd i holi yr wyt yn gwadu na wnaeth y gwaith. Y mae'r Iesu wedi myn'd i fyny. Dacw holl byrth y bedd yn agor iddo, dacw lwybr y bywyd o'i flaen, dacw fo yn esgyn i'r nefoedd wedi cyfarfod pob gofyn. 'Does dim eisieu i ti fyn'd i wneyd y gwaith,