Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔜 𝔓𝔞𝔯𝔠𝔥. 𝔇𝔞𝔳𝔦𝔡 𝔖𝔞𝔲𝔫𝔡𝔢𝔯𝔰, 𝔇.𝔇.

GANWYD David Saunders yn Nghastellnewydd Emlyn, Mai 20fed, 1831. Ond yn fuan ar ol hyn, ceir fod ei rieni wedi symud i Lanbedr Pont Stephan, sir Aberteifi, a thrachefn i Dreforris, ger Abertawe. Yr oedd ei dad yn meddu ar chwaeth dda a choethedig, yn ddyn craftus, ac yn gerddor medrus. Gwraig o feddwl craff a galluog oedd ei fam, a'i synwyr cyffredin a'i barn yn cael ei gydnabod fel yn nodedig. Pan tua deg oed tynodd y bachgen sylw eglwys Treforris fel cantwr heb ei fath—canai ddigon o alto i lon'd capel o gantorion. Hynododd ei hun yn yr Ysgol Sul a'r ysgol ddyddiol. Dysgodd y grefft o saer dodrefn, meddai ddwy law a bysedd y celfyddydwr, ond ni ddilynodd yr alwedigaeth hon yn hir. Yr oedd ei allu anarferol fel dysgwr, ei gymeriad prydferth, a'i barabl a'i ddawn ymadroddi, yn ei nodi allan fel un cymwys i weinidogaeth yr efengyl; a dechreuodd bregethu pan oddeutu 18 oed. Aeth i Athrofa Trefecca yn :851, yn mhen dwy flynedd rhyddhawyd ef i fyned i Glasgow, ond am un flwyddyn y bu yno. Yn 1855, ymgymerodd a bugeiliaeth eglwys Penclawdd, a'r un flwyddyn priododd à merch Mr. J. Howell, Pencoed. Yn 1857; symudodd i gymeryd gofal eglwys Bethania, Aberdar, a'r flwyddyn hon yr ordeiniwyd ef. Bu yma am bum' mlynedd. Yr oedd ei weinidogaeth yn llwyddianus iawn, dyblai yntau ddiwydrwydd mewn astudiaeth galed ar gyfer y pulpud. Yn ychwanegol at ei ddyledswyddau bugeiliol, bu yn golygu y Gwladgarur. Yn 1862, symudodd i Liverpool, a bu yn allu ac yn ddylanwad grymus i'n Cyfundeb yn adeg ei lwyddiant yn y ddinas hono. Oherwydd gwaeledd ei briod, aeth i Abercarn yn 1868, ac ni fu gweinidog erioed yn fwy yn mynwes ei eglwys nag yr