efe gan y ddeadell yn Abercarn. Yn y blynyddoedd hyn, cyfarfu â phrofedigaethau teuluaidd chwerw a effeithiodd yn ddwys iawn arno,- torodd ei goes, a chollodd ei blant oll ond un mab. O 1873 hyd ei farwolaeth, ar eglwys y Trinity, Abertawe, y bu yn weinidog. Edrychid arno gan ei gyd-drefwyr fel addurn penaf y pulpud yn y dref, ac fel arweinydd mewn duwinyddiaeth a chrefydd, yn gystal ag mewn materion trefol a gwladol.
Ond daeth ei yrfa i ben; bu farw ar y 19eg o Hydref, 1892, ac yr oedd ei gladdedigaeth yn dystiolaeth gyhoeddus ei fod yn wr mawr ac anwyl, ac fod un o gedyrn Seion wedi tewi. Treuliodd Dr. Saunders oes lawn o wasanaeth i'w genedl a'i Dduw. Ond yn y pulpud y rhagorai; pregethu oedd ei orchestwaith. Am dros 40 mlynedd, teithiodd drwy Dde a Gogledd Cymru i brif gynulliadau y bobl, gan fynegi rhinweddau Crist a'i groes i'r tyrfaoedd gyda pheroriaeth nefol a dylanwad sancteiddiol. Swynodd y miloedd â'i ddoniau melus, a dyrchafodd enw'r Iesu trwy ei weinidogaeth. Y mae hiraeth trwm ar ei ol.
FEL PREGETHWR.
Gan y Parch. William James, Aberdar.
Gellir dweyd am Dr. Saunders, fel y dywedodd un arall am dano ei hun, ddarfod iddo gael ei neillduo gan Dduw o groth ei fam, a'i alw ganddo trwy ei ras, i ddadguddio ei Fab ynddo fel y pregethai Ef yn mhlith y cenhedloedd. Yr oedd wedi ei lunio gan awdwr natur i fod yn bregethwr. Dyna a'n tarawai gyntaf wrth ei wrandaw, sef fod pob peth pregethwr wedi cydgyfarfod ynddo, -meddwl galluog, treiddgar, a chlir, a hwnw wedi ei ddysgyblu yn dda; calon fawr yn orlawn o hawddgarwch a serchowgrwydd, ac mewn cydymdeimlad byw a thyner â'r efengyl ac a'i gwrthddrychau; cydwybod bur, na fedrai oddef dim isel nac annheilwng mewn amcan nac ymddygiad; ewyllys fywiog, mewn cydgordiad â'r ewyllys ddwyfol ei hun; cof, pan yn anterth ei nerth, oedd yn ymylu ar fod yn ddifeth yn y pulpud; traddodiad llithrig a swynol, a'r iaith a'r cymhariaeth-