au goreu yn barod at ei wasanaeth; llais cyfoethog, ystwyth, mwyn a soniarus, yn hollol o dan lywodraeth ei berchenog, ac yn medru dadgan holl deimladau amrywiol ei fynwes; a braidd bob amser yr oedd ganddo destyn a phregeth fyddai yn cynwys mer a brasder yr efengyl. Pan y disgynai yr eneiniad oddiwrth y Sanctaidd Hwnw ar ei holl enaid, ac ar y gwirionedd a bregethai, yr oedd y dylanwad y mwyaf dyrchafedig a nefol a deimlasom erioed.
Cydgyfarfyddai ynddo holl anhebgorion y gwir areithydd. Safai yn naturiol ac urddasol yn y pulpud. Yr oedd pob symudiad yn weddaidd o'r dechreu i'r diwedd, a'i holl ymddangosiad yn bendefigaidd. Yr oedd yn berffaith rydd, a'i areithyddiaeth y fath nas gellid yn hawdd ei gwella. O ddechreu ei bregeth, llifai, gyda gras dros ei wefusau, mewn seiniau tyner a melus, y brawddegau mwyaf cyfoethog a gorphenedig. Fel y byddai ei ysbryd yn cynhesu, cynyddai y ffrwd, a chodai y llais yn uwch, ond ar ei uchelfan yr oedd yn hollol soniarus. Neidiai y geiriau i'w lle, fel dan ddylanwad y rhiniwr, i ffurfio y brawddegau mwyaf tlws a phriodol i'r mater, a dygid y cwbl dan deyrnged i'r amcan mwyaf goruchel, sef pregethu yr efengyl yn deilwng. Galwai un beirniad ei bregeth yn gyfansoddiad cerddorol cysegredig.
Yn mhellach, cyffroid ei holl natur, a derbyniai ysbrydoliaeth oddiwrth bresenoldeb cynulleidfa. Byddai torf, gyda llygaid a chlustiau agored cyfeiriedig ato, yn ei gyffroi er ei wneyd yn fwy o feistr ar ei adnoddau: rhoddai iddo afael sicrach ar ei bwnc, a dirnadaeth lawnach o hono, gwelai yn gyflymach ac yn gliriach y cymhariaethau mwyaf priodol i'w egluro, a pharai ei fod yn fwy medrus yn ei ddewisiad o eiriau. Sefydlai gydymdeimlad rhyngddo a'i wrandawyr mewn byr amser; deuai efe a hwythau i ddeall eu gilydd yn mron ar unwaith; ac oddiyno hyd ddiwedd y bregeth byddai y ddau yn llewyrchu ac yn adlewyrchu goleuni a gwres ar eu gilydd. Gwnai hyn, cofier, yn hollol ddiymdrech. Clywsom ef yn dweyd lawer gwaith na thalodd funyd o sylw erioed i draddodiad; astudiai yn ddyfal er dod o hyd i'r gwirionedd; ond wedi ei gael gadawai y modd i'w draddodi i ysbrydiaeth y foment. Perffeithrwydd natur oedd ei eiddo ef, ac yr oedd ei areithyddiaeth mor naturiol a dwfr yn llifo.