Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cafodd ar ddeall fod iddynt eu hamcan ymarferol, a bod iddynt wasanaethgarwch gogoneddus.

Ymgysegrodd yn hollol i weinidogaeth yr efengyl a'i hamcanion goruchel. Pan yr oedd y byd hwn yn cilio a thragwyddoldeb yn agoshau, yr oedd yn berffaith dawel gyda golwg ar ei achos ei hun; nid oedd hwnw yn pryderu dim arno; yr oedd wedi ymgymodi â phob ffurf bosibl ar y tragwyddoldeb mawr, er ei feithder diddiwedd, yn Iesu Grist; ond yr oedd dyrchafu ei Geidwad ac achub ei gydddynion yn ddymuniad angerddol yn ei galon nos a dydd, a'i weddi ddiweddaf cyn gadael y ddaear oedd ar i Ysbryd Duw beidio gadael gwrandawyr yr efengyl yn Nghymru.