Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ℭ𝔯𝔢𝔡𝔲 𝔞'𝔯 𝔊𝔞𝔩𝔬𝔫

Gan y diweddar Barch, David Saunders, D.D., Abertawe.

"Canys â'r galon y credir i gyfiawnder, ac â'r genau y cyffesir i iachawdwriaeth." RHUFEINIAID X. 10.

AMCAN yr apostol yn y geiriau hyn, yn gystal a'r prif epistolau a ysgrifenodd, ydyw dangos agosrwydd a hawsder trefn Duw i achub y byd ar y cyfiawnder sydd o'r ddeddf. Ac y mae yn gwneyd hyny drwy ei chyferbynu â'r cyfiawnder sydd o'r ddeddf, a roddwyd drwy Moses. "Canys y mae Moses yn ysgrifenu am y cyfiawnder sydd o'r ddeddf, Mai y dyn a wel y pethau hyny, a fydd byw trwyddynt," adn. 5, 6. A chyferbynu cyfamod Moses â'r cyfiawnder sydd o ffydd y mae yma. Yr oedd Moses ei hun yn ei ddeall fel cyfamod, ac felly y deallid ef gan blant Israel, a'r un modd yn ddilynol gan yr Iuddewon. Un ffordd o iachawdwriaeth, un oruchwyliaeth, sydd wedi bod gan Dduw yn holl oesoedd y byd. Ond yr oedd cyfamod Moses i'r Iuddewon drwy gam-ddealltwriaeth wedi myn'd yn fath o gyfamod gweithredoedd. Felly yr oeddynt hwy yn ei ddeall, "Mai y dyn a wnel y pethau hyn, a fydd byw trwyddynt." Ac yr oedd yna gryn dipyn o bethau i'w gwneyd,