ac o ganlyniad, yr oedd y cyfiawnder sydd o'r ddeddf yn gyfiawnder anhawdd iawn ei gyraedd. "Eithr y mae y cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn, Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i'r nef? neu, Pwy a ddisgyn i'r dyfnder?"—geiriau oeddynt yn arferedig yn y wlad i osod allan yr hyn oedd yn anhawdd, "esgyn i'r nefoedd" a "disgyn i'r dyfnder." Ac wrth ddefnyddio yr ymadroddion hyn yn y cysylltiad hwn, y mae yr apostol yn rhoddi ystyr iddynt, pwrpasol i'r pwnc dan sylw. "Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i'r nef? (hyny yw, dwyn Crist i waered oddiuchod); neu, Pwy a ddisgyn i'r dyfnder? (hyny yw, dwyn Crist drachefn i fyny oddiwrth y meirw)." Paid ymofyn; y mae dadrys yr anhawsderau wrth dy law di, oblegyd y maent wedi eu cyflawni eisoes. Nac ymofyn, Pwy a esgyn i'r nef i ddwyn Crist i waered oddiuchod? oblegyd y mae wedi disgyn. Neu, Pwy a ddisgyn i'r dyfnder i ddwyn Crist drachefn i fyny oddiwrth y meirw? y mae wedi esgyn. Y mae yr anhawsderau i gyd wedi eu cwblhau. "Mae y gair bellach yn agos atat, yn dy enau ac yn dy galon: hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu; Mai os cyffesi a'th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi." Nid oes dim yn aros i ti yn awr ond cyffesu â'th enau a chredu â'r galon, "Canys â'r galon y credir i gyfiawnder, ac â'r genau y cyffesir i iachawdwriaeth."
Hwyrach y tybia rhai o honoch, fy nghyfeillion, y byddwn ni heddyw'r boreu yn siaräd am yr hyn sydd yn nechreu 'r efengyl, ac y buasai yn dda genych i ni fyn'd rhagom i bynciau eraill, uwch a dyfnach. Ond eto, yr ydym yn tybio, ar adegau pwysig fel hyn, y dylid ceisio dysgu ein cynulleidfaoedd am egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw. Ceisiwn aros am ychydig y boreu yma ar yr hyn a ddywed yr apostol yn y