hun, yn ei lwybr ei hun. Mae y grefydd yma yn dosbarthu profion yn brofion mewnol ac yn brofion allanol. Hwyrach fod yma rai wedi myn'd i'r drafferth i chwilio am brofion allanol,—olrhain gyda hanes hwn o oes i oes nes dod at yr oesoedd diweddar, a chael boddlonrwydd i chwi eich hunain fod yr hanes hwn wedi ei ysgrifenu yn y cyfnod yn mha un y gallasai fod wedi ei ysgrifenu, gan y personau y mae eu henwau wrth yr hanes, Efengyl Mathew gan Mathew, Efengyl Marc gan Marc, Efengyl Luc gan Luc, Efengyl Ioan gan Ioan. Ac yr ydych wedi cyrhaeddyd sicrwydd trwyadl eich hunain fod yr Hen Lyfr yma yn cynwys hanes gwirioneddol. Y mae i chwi bob croesaw i wneyd hyny. Y mae șicrach a chadarnach profion fod Mab Duw wedi bod yn ein byd ni nag fod neb arall wedi bod. Fu neb erioed yn ein byd ni adawodd gymaint o'i ôl arno ag Iesu Grist. Ac y mae profion ei fod wedi bod yma faint a fynoch i'w cael. Chwiliwch faint a fynoch ffordd yna. Mae llawer iawn mwy o brofion fod Iesu Grist wedi bod yn byw yma na bod y Duke of Wellington wedi bod yn Lloegr erioed. Mae mwy o brofion fod Mab Duw wedi bod yma ar y ddaear na bod Martin Luther wedi bod yn Germani erioed. 'Does neb erioed wedi bod yn ein byd ni adawodd gymaint o'i ôl arno a'r Iesu. Mae'r profion o hyn yn dod o bob cyfeiriad. "Iesu Grist ydyw allwedd hanesyddiaeth y byd yma," meddai un. 'Does dim posibl deall hanes ein byd ni ond yn ngoleuni Iesu Grist. Y mae parotoadau amlwg ar ei gyfer cyn iddo dd'od, a chyfnewidiadau pwysig yn nghwrs hanesyddiaeth ar ol iddo dd'od, a'r unig allwedd i ddadgloi yr hanes ydyw Iesu Grist. Mi gewch chwilio ffordd yna faint a fynoch. Ac o bosibl fod yma lawer heddyw'r bore wedi cyraedd yr argyhoeddiad fod y Llyfr hwn yn wir na chymerasoch erioed y drafferth yna, ac hwyrach nad oeddych yn meddu y cyfleusderau i'w wneyd. Ond
Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/79
Gwedd