daethoch i deimlo rywsut wrth ddarllen y Beibl drosoch eich hunain ei fod yn Llyfr Duw. Wel, sut? Wyddoch chi ddim yn iawn. Y mae rhywbeth ynddo sydd yn perswadio eich dynoliaeth ei fod yn cynwys hanes gwirioneddol. A 'does dim rhaid i chwi fod yn ddysgedig iawn i gyraedd yr argyhoeddiad yna. 'Does dim rhaid bod yn ddysgedig i adnabod dwfr y ffynon, a'i wahaniaethu oddiwrth bob gwlybwr arall o wneuthuriad dynol. Cymysged y Chemist a fyno, 'does neb fedr wneyd dwfr ffynon ond Duw, ac y mae y dyn mwyaf anllyth'renog yn y wlad yn ei adnabod ar unwaith. "Dw'r ffynon ydyw hwn; 'does dim rhaid myn'd i Lundain i wybod fod hwn yn ddw'r ffynon," meddai; "yr wyf yn ei adnabod yn dda." Y mae rhywbeth fel yna na i'w ddweyd am Lyfr Duw, —y gall y mwyaf annysgedig ac anllyth'renog ei adnabod. Dw'r ffynon ydyw hwn. Yr ydych yn teimlo ei wirioneddolrwydd yn ei naturioldeb yn yr hyn y mae yn ei ddweyd ac yn y modd y mae yn ei ddweyd, ac yn yr hyn nad ydyw yn ei ddweyd. Y mae "hyd yn nod ei atal d'wedyd yn hyawdledd" i berswadio dyn ei fod yn berffaith wir. Yr wyf yn teimlo ynof fy hun ei fod yn cynwys hanes gwirioneddol. Fe fyn rhyw bobl ein perswadio i gredu mai yr Eglwys sydd wedi rhoi y Beibl i ni. Y nhw sydd wedi setlo pa lyfrau i'w hystyried yn llyfrau Duw, a pha rai sydd i'w hystyried heb fod yn llyfrau dwyfol. Gyda phob parch iddynt, yr wyf yn ystyried eu bod yn hòni gormod. Na, gyfeillion, yr wyf yn credu mai y Beibl ei hunan sydd yn profi y pwnc, a'i fod yn cario y profion ynddo ei hunan bob amser. Y peth berswadiodd ein tadau y dyddiau gynt ei fod yn Llyfr Duw sydd yn ein perswadio ninau eto. Nid pwyllgor o seryddwyr a all setlo a ydyw y bydoedd uwchben yn heuliau. Wel, pwy sydd yn setlo y pwnc? Yr haul ei hunan. 'Does dim eisieu ond iddo ymddangos nag y mae pob byd arall yn di-
Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/80
Gwedd