flanu. Nid yr Eglwys mewn un cyfnod sydd yn penderfynu pa beth i'w ystyried yn Llyfr Duw. Beth sydd yn gwneyd hyny? Y Beibl ei hunan drosto ei hun, heb gymorth neb. Efe ei hun wnaeth hyny gynt, ac efe sydd yn gwneyd eto, ac i wneyd bob dydd. Pob parch i ddynion da sydd wedi ysgrifenu llyfrau galluog i brofi ei fod yn wirionedd ac yn ddwyfol ysbrydoledig. Hwyrach eu bod yn gwneyd lles i rywrai neu gilydd. Ond o'm rhan i fy hun, yr wyf yn coelio os na 'neiff y Beibl ei hun berswadio dyn ei fod yn wirionedd ac yn llyfr dwyfol, ffarwel i bawb arall wneyd. 'Does ar Dduw ddim eisio help neb. Y mae y Beibl yn cario ei brofion ynddo ei hunan. 'Does dim eisieu ond bod yn unplyg, yn sobr, uwch ei ben nag y bydd iddo eich perswadio ei fod yn wirionedd. Ai dyna ffydd? Nage, nid dyna ffydd y Beibl. Y mae yn bosibl i chwi gyrhaeddyd hynyna oll, fy nghyfeillion, a bod yn golledig wed'yn. O'r braidd yr wyf fi heb gredu agos nad yw hyna yn meddiant pawb sydd yn y Pavilion heddyw. Rhaid cael hyna, ond ei gael i gychwyn, ei gael i fod yn sail i'r peth arall, crediniaeth, nid yn unig yn y Llyfr, nid yn unig yn y Dystiolaeth, ond yn y Person am ba un y tystiolaetha. Ac hyd nes y byddo ffydd, gyfeillion, wedi myn'd oddiwrth y Llyfr i'r Person, nid ydyw yn ffydd nac yn grediniaeth. "A'r galon y credir i gyfiawnder." Gweithrediad calon tuag at y Person mawr hwn ydyw y grediniaeth hon. Y mae hynyna i'w weled yn amlwg yn y defnydd a wneir o'r gair ffydd gan Iesu Grist ei hun. Yr ydych yn cofio am y dysgyblion ryw dro mewn 'storm, eu Harglwydd yn cysgu, a hwythau yn myn'd yn gythryblus ato, ac yn gofyn iddo, "Ai difater genyt ein colli ni?" "O," meddai Iesu Grist, "p'am yr ydych mor ofnus? paham na byddai genych ffydd?" Pa ffydd? Nid ffydd mewn tystiolaeth. Nid oedd ganddynt yr un dystiolaeth y galląsent weithredu ftydd ynddi. Wel, ffydd yn mha
Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/81
Gwedd