Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

beth? Ffydd ynddo Ef. Sut na buasai genych ffydd ynof fi i wybod na fuasech byth yn gallu suddo yn yr un llong a mi? Ffydd ynddo Ef! Yr un modd gyda'r wraig o Ganaan pan yn dadleu gyda'r Iesu dros ei merch, a'r Iesu yn ei chadw draw am ysbaid o amser, ond o'r diwedd y mae yn ceisio teyrnas nefoedd, a'r Iesu yn rhoi ei dymuniad iddi. Y mae yn dywedyd wrth y ddynes dlawd, "Mawr yw dy ffydd, bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio." Wel, pa ffydd? Nid ffydd mewn tystiolaeth. Yr oedd pob gair a ddywedodd yr Iesu yn milwrio yn erbyn y ddynes, ond eto y mae yn dweyd, "Mawr yw dy ffydd." Ffydd yn mha beth? Ffydd, yn ddiau, ynddo Ef, —ffydd ei fod Ef hyd yn nod yn well na'i eiriau. "Mawr yw dy ffydd, bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio." Yr un modd am holl ymadroddion y Beibl sydd yn gosod allan ffydd a chrediniaeth. Weithiau, fe'i gelwir yn rhodiad ato; bryd arall, gelwir hi yn dderbyniad o hono; bryd arall, gelwir hi yn rhoddiad ato i gadw. "Miawn i bwy y credais," meddai'r apostol, "ac y mae yn ddiamheu genyf ei fod ef yn abl i gadw yr hyn a roddais ato erbyn y dydd hwnw." Dyna ydyw ffydd,—rhoddi ato i gadw,—trust, —ymddiried, ymddiried yn y Person, credu ynddo Ef, a chredu ynddo i gyd. Credu yn urddasolrwydd ei Berson, credu yn mhob awdurdod a hona ei fod yn eu meddianu, —credu yn ei ddysgeidiaeth ac yn ei holl ddysgeidiaeth, credu yn ei allu, yn ei hollalluowgrwydd i achub, a chredu yn ei addewidion. Credu yn yr Iesu, a chredu ynddo i gyd. Nid credu yn y drefn i achub. O, nage, fy nghyfeillion. Y mae yna drefn ddwyfol, trefn ag sydd yn fwy sefydlog na deddfau natur. Ond nid crediniaeth yn y drefn sydd yn achub neb. Nage, crediniaeth yn y Person. Nid crediniaeth yn yr athrawiaeth. Nage, y mae "athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb," ond nid crediniaeth yn yr athrawiaeth sydd yn achub neb. Credin-