iaeth yn y Person sydd yn achub. Rhaid i chi fachu eich bôd wrth Berson Mab Duw, penderfynu cymeryd eich siawns am byth gydag Ef, a phenderfynu ei ddilyn i ba le bynag yr elo. Dyna ydyw ffydd. A rhaid i chwi gael y galon, yr holl galon i wneyd hyna. "A'r galon y credir i gyfiawnder." Wel, dyna ddigon, meddech chi. Wel, ïe, am wn i.
Ond rhag ofn i chwi dybied, a gadael rhywbeth allan, goddefwch i mi ddweyd y rhaid i'r ymddiried mawr yna i'r Person gael ei ganlyn gan ymgyflwyniad llwyr iddo. Pe bawn yn dweyd fy argyhoeddiad i chwi, dyma yr elfen fawr sydd yn ddiffygiol yn ein crefydd ni—ymgyflwyniad, mynediad drosodd i fod yn eiddo iddo am byth. Dyma lle mae gwraidd ein holl ddiffygion. Gellwch gyflogi cyfreithiwr neu barrister i ddadleu eich achos drosoch mewn case, a 'does dim rhaid i'r barrister hwnw wybod eich cyfrinach na myned i mewn i hanes eich perthynasau a'ch teuluoedd. Y mae y dyn yn rhoi y wybodaeth angenrheidiol at yr achos yn llaw y bar—gyfreithiwr, y documents, ac felly yn mlaen; ac y mae yntau yn dadleu eich achos wrth y llys, ac hwyrach yn llwyddo i enill y treial, a'i gyflog yn cael ei dalu, a'r cysylltiad yn darfod. Fydd dim a fyno a'ch cyfrinach a'ch arferion personol chwi. Mae arna i ofn fod llawer iawn o bobl yn gwneyd barrister o Fab Duw. Y maent yn ceisio ganddo gymeryd at eu hachos, a'i ddadleu yn y llys fry; y maent yn cymeryd gofal i'w ganmol am wneyd, ond ddim yn golygu iddo ef ymyraeth llawer â hwy, eu dull o fyw, eu syniadau am bethau, a'u hamcanion mewn bywyd. Na, nid barrister ydyw Iesu Grist, yn dadleu achos drwg ac yn ceisio cael eu hachos yn rhydd yn y llys fry. Na, na, mistake, bobl; camgymeriad mawr ydyw hyny. Y mae Iesu Grist yn penderfynu na chymer o achos neb na byddo yn rhoi ei hunan iddo. Chymer o mo'ch achos