os na fyddwch yn rhoi eich hunain am byth yn eiddo tragwyddol iddo. Mae arna i ofn mai fan hon y mae gwraidd ein holl ddiffygion ni, mhobl i; nid ydym wedi myn'd drosodd yn eiddo i Fab Duw fel canlyniad ffydd ynddo. Ac o ganlyniad, goddefwch i mi ofyn fan yma, A ydych yn byw iddo? a ydych yn byw dano? "Yr wyf yn treio byw mor foesol ag y gallaf." O, re, yr wyf yn gweled yn mh'le yr wyt yn byw: yr wyt yn byw i dy amcanion dy hun, ac yn tori can' lleied ag a elli o orchymynion moesol wrth ymgyrhaedd at hyny. Mae gen i ofn fan yma fod eich haner yn byw i chwi eich hunain yn amcanion mawr bywyd, ond yn tori can' lleied ag y galloch o orchymynion Duw wrth gyraedd at hyny. Ond "nid felly y dysgasoch chwi Grist." Ceisio gwasanaethu Duw a mammon ydyw peth fel yna. Ond y mae yn rhaid i Fab Duw gael dy amcanion di mewn bywyd yn gystal a dy gyflawniadau di. Yr wyt i wneyd byw iddo yn amcan dy fôd. Yn wir, y mae arnaf ofn i'r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb ac i ras Duw gael eu troi yn felldith. Yr wyf wedi cyfarfod a rhai dynion oeddynt yn proffesu crefydd, ac wedi gweled amryw swyddogion eglwysig yn byw yn grefyddol felly, ond yr oeddym yn meddwl nad oedd eu crefydd yn ddim gwell na cheisio myned ar gefn Iesu Grist i'r nefoedd, ac yn lwmp o lygredigaeth. Mae yn siwr o fod, fy mhobl i. Y maent yn credu mewn rhyw athrawiaeth o gyfrifiad nad yw yn fy Meibl i. Y mae cyfrifiad yn hwn. Oes, ond sail y cyfrifiad sydd yma ydyw undeb â Mab Duw, a hwnw yr undeb agosaf sydd yn bosibl,—undeb ysbryd, undeb bywyd, undeb bod, —y dyn wedi myn'd i mewn i Grist. Sut y mae yn ei gael? Ei gyfrif iddo? Na, y mae yn byw iddo. "Ac y'm cair ynddo ef," nid drwy gyfrifiad, ond drwy fywyd; y mae wedi myn d yn eiddo i Fab Duw. Dyna sail y cyfrifiad sydd yn fy Meibl i. Undeb a Mab Duw yw ei sail. A gwyliwch
Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/84
Gwedd