Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chi droi gras Duw yn drythyllwch. Y mae crediniaeth yn Iesu Grist yn golygu ymgyflwyniad llwyr a hollol iddo.

Yn awr, fy nghyfeillion, gair neu ddau cyn gorphen i ddangos CYMHWYSDER Y DREFN HON.

Yn y lle cyntaf: Y mae achubiaeth dyn drwy grediniaeth ei galon yn berffaith gyson â thelerau ei gyfrifoldeb. Y dyn ei hun bia ei galon; y dyn ei hun sydd yn gyfrifol am holl weithrediadau ei galon. Fe fyn rhyw bobl ein perswadio i gredu nas gall dyn fod yn gyfrifol am ei grediniaeth, —fod crediniaeth dyn yn ol angenrheidrwydd ein natur ni, ac nad ydyw o fewn cylch ei ewyllys ef o gwbl. Pa rinwedd sydd mewn credu fod dau a dau yn bedwar? Dim. Fedrech chi ddim credu yn wahanol pe bae chi'n treio. Pa rinwedd sydd mewn credu fod y peth yn gyfan yn fwy na rhan o hono? Dim; fedrech chi ddim peidio ei gredu. Mae holl axioms Mathematics yr un fath. Yr un modd am lawer iawn o ffeithiau hanesyddol. Pa rinwedd sydd mewn credu fod y Diwygiad Protestanaidd wedi cymeryd lle? Dim. Pa rinwedd sydd mewn credu fod brwydr Waterloo wedi ei hymladd? Dim rhinwedd. Byddai y neb geisiai eu gwadu yn fwy priodol i wallgofdy nag unlle arall. Ond nid am grediniaeth y deall yr ydym yn siarad heddyw, ond am grediniaeth y galon. A gwyddoch fod llu mawr o bethau ag y mae gan ddyn i'w credu neu eu hanghredu, a'i galon sydd yn penderfynu pa un a wna. Y mae opiniynau, a barnau, a chredoau pobl yn fynych iawn yn cael eu penderfynu gan ogwyddiadau eu calon. Y maent yn credu yr hyn y maent yn ddymuno gredu, yr hyn y maent yn garu gredu, fel y maent yn ystyried eu mantais hwy yn rhedeg. Just yr un fath ag y mae y currents ar y mor. Beth sydd yn penderfynu gogwydd y currents? Rhyw anwastadrwydd dwfn sydd yn ei