wely, i lawr yn y gwaelod. Y mynyddoedd a'r dyffrynoedd sydd i lawr yn y dyfnderoedd sydd yn penderfynu currents y mor. Beth sydd yn penderfynu opiniynau, a barnau, a chredoau pobl? O, egwyddorion a thueddiadau dyfnion eu calonau. Hwyrach nad ydynt yn ymwybodol o hyny bob amser. Ond i lawr yn y galon y mae y gredo yn cael ei ffurfio, yn enwedig pan fyddo person dan sylw, person, nid pethau; person, nid arwyddebau. Person sydd yn ymwneyd â chalon. A dyna sydd yn yr efengyl: Person di—gyffelyb, a hanes di—gyffelyb am y Person hwnw: dwyfol lid a heddwch nef a daear wedi cyd—gyfarfod ynddo Ef, a chroesi ar draws hanesyddiaeth ein byd ni, yn dal ei ben hyd y nef, yn honi bod yn ddadguddiad o'r Duwdod, ac am hyny yn hawlio gwarogaeth calonau pawb. I farn y daeth Hwn y tro cyntaf, i farn y daw Hwn y tro nesaf, ac y mae yn barnu y byd o hyd. Fe ddaeth â'i wyntyll yn ei law i ysgar y gwenith a'r us oddiwrth eu gilydd. A pha le bynag yr elai, yr oedd hyny o grefydd oedd yn y gymydogaeth yn myned yn amlwg yn y fan drwy gariad ato, a hyny o gau grefydd oedd yn bod dan ffug crefyddolrwydd uchel yn myn'd yn amlwg mewn casineb ato. Dadguddiodd galonau llawer pan oedd yma yn byw. Felly y mae eto yn ngweinidogaeth yr efengyl,—yn dadguddio meddyliau llawer o galonau. Hwn ydyw y maen prawf y mae y Duw mawr wedi ei osod yn ein canol, i ddadguddio ein cymeriad ac i setlo ein tynged am byth. Mae crediniaeth yn amod iachawdwriaeth yn berffaith gyson â thelerau bywyd dyn.
Ond yn yr ail le: Y mae crediniaeth yn Hwn fel amod iachawdwriaeth yn addas iawn i ddyn yn ei wendid ac yn ei dlodi. Heb haeddiant? Ië, heb brydferthwch o fath yn y byd. Heb allu? Ië, heb dalent os mynwch hefyd. Y gweithrediad mwyaf syml o