Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eiddo enaid dyn ydyw credu. Y gweithrediad mwyaf di—dalent, os bydd yn un da, o eiddo enaid dyn ydyw credu. 'Does dim eisieu talent i gredu. Y mae plentyn bach yn credu, yn credu yn ei dad ac yn ei fam, ac yn credu yn mhawb os caiff brawf pwy ydynt. Y gweithrediad mwyaf syml, mwyaf di—dalent, o eiddo enaid dyn ydyw credu. Y bachgen o forwr ar fwrdd llong yn canu, yn prancio ar dywydd drychinog iawn; y llong yn rowlio ar hyd y moroedd dychrynllyd, yn gwybod dim am y charts, yn gwybod dim ond "Fy nhad sydd wrth y llyw." Crediniaeth yn ei dad sydd yn gwneyd y tro yn lle pobpeth arall. Y mae y Duw mawr wedi dod ag iachawdwriaeth yn agos iawn, i'ch drws chwi a minau. Beth y mae yn ei ddweyd? "Os credwch yn fy Mab I," fel y mae y plentyn bach yn credu yn ei dad ar y ddaear, "cadwedig fyddwch." Mor bell ag y gallaf fi weled, fedrai y Duw mawr ddim dod ag iachawdwriaeth yn nes at ddyn na'i chysylltu wrth grediniaeth ei galon. Yr oedd y dysgyblion pan yn ei ddilyn yn nyddiau ei gnawd, —un fechan iawn oedd eu duwinyddiaeth hwy, ac yr oedd mwy na'r haner yn gyfeiliornad. Ond y peth oedd yn well na'r cwbl—yr oeddynt yn credu ynddo Ef; yr oeddynt wedi penderfynu myn'd ar ei ol Ef i ba le bynag yr elai. Wn i ddim faint o wybodaeth sydd yn eisiau i sicrhau cadwedigaeth dyn, ond yr wyf bron a mentro dweyd y cedwir pwy bynag a gredo ynddo Ef pa mor lleied a fyddo ei wybodaeth. Fedrai Duw ddim gosod iachawdwriaeth yn nes at y dyn na thrwy ei chysylltu â chrediniaeth ei galon.

Yn y trydydd lle: Nid yn unig y mae yn gyson â thelerau ei gyfrifoldeb, ac yn addas a chyfleus iddo, ond y mae yn sicrwydd tragwyddol fod y dyn yn darfod â phechodau. Fedr Duw, fy nghyfeillion i, ddim achub dyn mewn pechod. O, na, gwaredigaeth oddi-