𝔜 𝔓𝔞𝔯𝔠𝔥. 𝔇𝔞𝔳𝔦𝔡 ℭ𝔥𝔞𝔯𝔩𝔢𝔰 𝔇𝔞𝔳𝔦𝔢𝔰, 𝔐.𝔄.
FEL PREGETHWR.
Gan y Parch. J. Puleston Jones, M.A., Bangor.
FEL un o'r fintai fechan hono o ddynion sydd wedi chwyddo cyfoeth meddwl eu gwlad a'u hoes y cofir David Charles Davies. Dyna ei ragoriaeth benaf; a dyna fuasai ei ragoriaeth fawr, pa ffurf bynag a gymerasai ei lafur. Meddyliwr oedd y dyn: ac fe ddeuthai hyny allan mewn unrhyw gylch yr äi dyn fel efe iddo. Bu yn son, pan oedd efe yn bur ieuanc, am fyn'd yn gyfreithiwr. Pe cyfreithiwr fuasai, er y gosodasai arferion y gwaith hwnw rywfaint o'u delw arno ef, fel ar bawb arall, gosodasai efe lawer mwy o ddelw ei feddwl hynod ei hunan ar y gwaith. Yn awr y mae crefydd Cymru ar ei mantais yn fawr, nid o fod gan Gymru fwy o ddynion mawr na chenhedloedd eraill,---ni fedd yr un genedl lawer o'r rheiny yn ol yr herwydd, ond o fod llawer o ddynion mawr Cymru wedi myn'd yn bregethwyr. Ni wyddom ni ddim eto beth yw bod am dymor hir heb do o ddynion goreu y genedl yn y pulpud.
Pregethu oedd prif waith oes Mr. Davies. Gwir yr ystyriai efe ei hun, a chyda llawer o briodoldeb hefyd mai dysgu pobl ieuainc oedd ei genadwri arbenig ef; a chafodd gyfle yn niwedd ei oes i roi toraeth ei lafur i hyny am ddwy flynedd a haner. Yr oedd yr athraw yn y pregethwr, hefyd, ar hyd ei oes. Eto trwy y rhan fwyaf o'i yrfa, pregethu oedd ei brif lwybr i ddweyd ei feddwl. Y mae y darlithiau argraffedig, a'r Esboniad ar Epistol Cyntaf Ioan, yn hen