ddigon i osod Mr. Davies yn y rhes flaenaf o ysgrifenwyr llyfrau, er mai ychydig a ysgrifenodd. Ond wedi'r cwbl, y mae deunydd cyfrolau lawer o lafur, pe gellid ei gynull, eto yn ol yn ei bregethau. Bydd y nodion ar yr Epistol at yr Ephesiaid, pan ddelont allan i gyd, yn ychwanegiad gwerthfawr dros ben. Ac onid yw yn beth i ddiolch i Dduw am dano, fod un o'n meddylwyr disgleiriaf ni wedi mentro rhoi hufen ei feddyliau yn yr ymdrech i egluro yr efengyl i gynulleidfaoedd cymysg cyffredin? Y mae yn glod i gyfarfodydd pregethu Cymru, fod pregethu o fath ei bregethu ef yn hoelio sylw cynulleidfa fawr cystal a'r doniau mwyaf poblogaidd.
Rhaid cofio hefyd, ar fater fel hyn, fod aml i ddwl yn gwrando ar farn y doeth, ac yn teimlo, gan mai canmol y mae hwnw, mai canmol ddylai yntau, er bod ar ei oreu yn gwerthfawrogi yr un a ganmolir ganddo. Er hyny y mae poblogrwydd David Charles Davies yn beth hynod iawn, ac yn arwydd diamwys er daioni Ac ni fuasai dim ond ei ddoniau amlwg fel meddyliwr yn peri i bobl son cyn lleied am y gamp oedd arno fel llefarwr. Yr oedd yn fwy o feistr ar y grefft o bregethu, heb son am ddim byd uwch, nag oedd haner ei wrandawyr yn ei feddwl; ac y mae y rhagoriaeth oedd ynddo yn hyn o bwnc yn heuddu gair o sylw.
Sylwai y Doctor Saunders, wedi ei wrandaw ryw brydnawn yn Jewin, Llundain, gwrandaw a'i wyneb at y bobl, a Mr. Davies yn pregethu i'r rhai y buasai yn llafurio yn hir yn eu plith, —" Mi welaf," eb efe, "pa le mae brwdfrydedd eich cynulleidfa chwi, yn yr un fan a'ch brwdfrydedd chwithau. Y mae rhyw ddwsin o lygaid byw, yn serlo arnoch chwi drwy'r amser." Ac yn wir, heb law y rhai fyddai'n dilyn pob trofa yn yr ymresymiad, teimlai corff y gynulleidfa oddiwrth awdurdod byw, diorphwys, y pregethwr. Eithr yr oedd yn fwy peth gan Mr. Davies, dybygid, gael ychydig o'i wrandawyr yn fyw iawn, na chael y corff o honynt i wrandaw o gydwybod, gyda'r astudrwydd marw hwnw, os astudrwydd hefyd, sydd yn derbyn pobpeth yr un fath. Byddai troion yn o aml, pryd yr ymledai y gwrando byw, meddylgar, dros dyrfa fawr. Gwelwyd rhan fawr o gynulleidfa wedi codi ar eu traed, bron heb yn wybod iddynt eu hunain, dan bregeth o'i eiddo yn Nghwm Rhondda.
Llais bychan: ond rhyfedd yr awdurdod oedd yn hwnw hefyd, awdurdod heb ddim rhodres pregethwrol, a bywiogrwydd gwisgi