gwehilion Lloegr i etifeddu y 547,628 cyfer gollodd Desmond trwy ryfela yn erbyn y Llywodraeth, a dechreuwyd y "Plantation of Munster." Ond nid lle hapus oedd yno i elynion y Gwyddel ffarmio. Ymosodid arnynt o bob cyfeiriad gan y rhai alwent eu hunain yn Robin Hood, fel mai da oedd ganddynt droi tua Lloegr yn ol. Pwy yw y nesaf i geisio adennill yr Iwerddon,—anialwch ac anghyfanedd-dra sydd yn y de? Mae dau frawd Desmond,—John ac Iago,—wedi eu dal a thorri eu pennau, a daliwyd yntau hefyd, er ffoi o fryn i fryn, yn ei gaban cerrig gododd ar fryn Slievenish ger Tralee, a rhoddwyd ef i farwolaeth greulon. Dacw Huw Goch yn codi ei fwa,—gwae'r Saeson.
Ond rhaid gadael hanes, y mae gennym ugain milltir rhyngom a bwyd a llety. Gyda ein bod yn gadael y bont ac yn troi am gornel sydyn, dyma ergyd o ganon dros y lle, a bu ei heco yn llamu o graig i graig gyda thwrw syfrdanol yn hir. Beth ddaeth ag arfau tân i le felly?