"Purion! Saetha fi,' gwaeddai Pat, does yna ddim shots yn y gwn.'
"Felly finnau," ychwanegai'r Gwyddel wedi iddo orffen chwerthin am ben ei stori, "cadw swn heb shots."
"I beth y gollyngasoch yr ergyd?" "I beth? Ond i'ch honor glywed yr eco, ac mae ych honor yn rhy fawr i basio heb daflu chwech i mi yn siwr,—ac eco dda yw hi, hi yw yr ore yn y byd."
"Pam yr ydych yn galw yr eco yn hi,—ar y rhyw fenywaidd?"
"Am ei bod yr un fath a'i rhyw,— chewch chi byth y gair olaf ganddi." Gyda i ni dalu i hwn a'i adael a throi trofa arall, yr oedd yno eto ŵr o'r un llwyth, a choesau cyn feined a rhai ceiliog rhedyn, yn sefyll ar dalp o graig a chornet yn ei law. Cyn ein gweld braidd dechreuodd ganu ei gorn, ac ar hynny dyma y creigiau yn biwglo i gyd; ond nid oeddynt trwy drugaredd, yn tynnu'r ystumiau dirdynnol a wnai canwr y cornet,—elai ei fochau yn fawr fel mwdwl gwair; a disgynnent eilwaith yn