Gadawsom ef a'i siop, a rhythai Bwlch Dunloe arnom pan ddechreuem gerdded y ffordd gul ai rhwng ei ddwy erchwyn serth. Mae'r Gwyddel yn meddwl y byd o'i Gap of Dunloe, chwedl yntau, a hwn yn ddiau fuasai ei dduw,—ac nid fi a'i beiai-oni bai iddo glywed am Dduw gwell a charedicach. Finn Mac-Couhal dorrodd y Bwlch, medd traddodiad, â'i gleddyf, er hwylustod i'w fyddin fynd ymlaen. Fingal o' Fin yr Alltud yw enw y gwron hwn yn yr Alban ac Arthur Fawr yng Nghymru. Marw yn y frwydr, druan, wnaeth Finn cyn rhyddhau'r Gwyddel o'i gaethiwed, ac mae iau y gorthrwm yn drom ar aml i war wyredig rhwng mynyddoedd Kerry heddyw. Hwyrach y daw Finn yn ol—mae'r Gwyddel yn ei ddisgwyl beth bynnag.
I un fagwyd ym Mhenfro neu Faldwyn buasai'r Bwlch yn olygfa ddieithr a tharawiadol; ond i un o Arfon neu fynyddoedd Eryri buasai yn ei gynefin, ac ni welai ddim i gyfiawnhau'r ansoddeiriau wastreffir